Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynnodd

mynnodd

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Ar y diwrnod llawn olaf yn Galway, mynnodd Merêd eu bod yn mynd ar y llong i Ynysoedd Arainn.

'Dyma fo'r cynllun,' mynnodd Robat.

Mynnodd Rhian gael mynd i ysgol breswyl y Santes Fair er mwyn dianc o swn ffraeo Reg a Megan.

Mynnodd Mike England y bydde Thomas yn cyrraedd a'i fod wedi bod ar y ffôn yn addo teithio i lawr yn y car gydag un o fois y Gymdeithas Bêl- droed.

Mynnodd Dr Tom imi werthu'r llyfr hwnnw i goleg Bangor.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roed y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law.

Hwn oedd yr enaid unig y mynnodd ef ei goleddu cyd.

Mynnodd Sam imi ei ddileu, a bu'n rhaid dileu brawddeg gyfan oherwydd hynny.

Yn yr Adroddiad ar siroedd Caerfyrddin, Morgannwg a Phenfro mynnodd Lingen fod y merched bron yn ddieithriad yn anniwair -

'I want that noise investigated', mynnodd.

Ond mynnodd y siopwr mai ei ddyletswydd ef fel cyfaill a Christion oedd peidio â gwerthu iddo rywbeth nad oedd arno mo'i angen.

Am gyfnod, mynnodd eu bod yn gwisgo sgertiau byr, a chyfeiriai atynt fel 'y lleianod chwyldroadol' - er bod lle i amau eu purdeb.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Yna, trodd at y chwilod duon oedd yn aros ar y lan a mynnodd yn ffroenuchel eu bod yn eu hebrwng at y pennaeth.

Mynnodd W.

Mynnodd rhain gloddio drifft newydd i lawr i'r Gwscwm, ymhen amser, a chwmni arall a ddaeth o Loegr, sef y Pembertons, tua diwedd y ganrif, yn suddo drifft yng nghanol Porth Tywyn, ac yn nes ymlaen roedd y glowyr yn y ddau waith hyn yn gweithio o dan y môr.

Mynnodd ei bod yn ei rhoi ei hun iddo.

Mynnodd gennyf ddilyn y gwersi Cymraeg yn yr ysgol elfennol, ac wedyn yn yr High School 'roedd yn rhaid i mi gymryd y Gymraeg fel pwnc.

Mynnodd Cadi newid i'w dillad gorau, gan nad oedd wedi gwisgo fawr arnynt ar yr ynys.

A mynnodd gyfle i arddangos ei waith yn y Royal Academy a Salon Paris yn ogystal ag yn y Royal Cambrian Academy a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Welwch chi mohonof i yn plygu!' mynnodd y dderwen.

Mynnodd fwrw ymlaen i wneud yr operasiwn radical a pheryglus o dorri ymaith yr holl bancreas.

Pan ddaethpwyd at bont dros yr afon Coirib fe gyfareddwyd Merêd gan y cannoedd o eogiaid yn ystwyrian yn ddioglyd ar wely'r afon a mynnodd aros yno i'w gwylio.

Mynnodd hi ei fod yn ail ystyried.

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.

Wrth gyfiawnhau cynnwys clychau gwartheg yn symudiad araf ei Chweched Symffoni, mynnodd Mahler mai dyna'r sŵn dynol agosaf oll at yr awyr a'r unigeddau.

Yr oedd Young wedi coladu John Gough yno ond gwrthwynebai Ferrar y penodiad a mynnodd erlyn Gough trwy'r llys consistori.

Mynnodd Capten Rogers ymuno yn y chwilio ac ni fu fawr o dro cyn dod o hyd i'r wersyllfa lle'r oedd y tanc tanddaearol Oddi yno dilynodd traciwr o Arab y trywydd nes taro ar y dynion yn eu trybini annisgwyl.

Mynnodd Mr a Mrs Beasley fod dwyn y llys ymlaen yn Gymraeg.

Hyd at y diwedd un mynnodd fod yr 'iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth'.

Yn wir, ni ddylid anwybyddu Mynnodd ef wthio penderfyniad trwy'r Cenhedloedd Unedig yn condemnio'r trais ac yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol.