Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynych

mynych

Rhwng llwyddiant mynych, neu fethiant mynych.

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

Ar ôl mynych newid ysgwyddau tan yr arch hyd onid oeddynt yn friw gan y pellter, cyrhaeddwyd Capel Seion.

O reidrwydd ceir mynych ailadrodd, ac mae'r golygydd ei hun hefyd yn trafod y cerddi hyn.

Creodd y capeli hyn gymdeithas a oedd, er ei mynych wendidau amlwg, yn urddasol a diwylliedig.

Ond Ysgol Eglwys o'dd y ddwy, ac mi ro'dd mam yn nabod sgwlyn Llangoedmor, ac oblegid hynny, rodd hi'n haws ganddo faddau i mam a minnau am y mynych ddyddiau a gollwn o'i ysgol.

Gwobrwywyd arwrgerdd affwysol o wael gan gystadleuydd mynych ei wobrau yn adran farddoniaeth yr Eisteddfod yn y cyfnod.

Er gwaethaf y gwahaniaeth pwyslais rhwng traddodiad y Dwyrain Uniongred, â'i sôn mynych am lygredigaeth a marwolaeth, â'r Gorllewin Catholig â'i sôn yntau am bechod ac euogrwydd, 'roedd yr eglwys gynnar yn un yn ei dealltwriaeth o weinidogaeth Crist fel aberth drud a offrymwyd i Dduw er mwyn cyflawni iachawdwriaeth dyn.

Yn ne Cymru un person mae mynych alw arni i ddarostwng ysbrydion yw Tina Laurent, Y Cymer, ger Port Talbot.

Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.

Roedd yr aelwyd honno wedi'i mynych gydnabod yn bwerdy daioni'r genedl ers hir amser gan grefyddwyr, gwleidyddion, llywyddion eisteddfodau, areithwyr Dygwyl Dewi, dirwestwyr, beirdd, stori%wyr, cerddorion, artistiaid a llu o amryfal gyfranwyr a fwydai bapurau a chylchgronau Oes Victoria.

Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar ôl mynych gystadlu.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Trwy'r cymdeithasu mynych a fu rhwng aelodau o'r teulu a'u cyd-ysweiniaid Cymreig ac â'r uchelwyr Seisnig, un ai yng Ngwedir neu yn Llwydlo neu yn Llundain, adlewyrchir yn barhaol yr ymdrech uchelgeisiol honno i gyfleu rhyw naws neu statws cymdeithasol arbennig.

Dyna effaith ddiatreg yr enw hwnnw ar fy meddwl i yn aml, ac y mae'n rhan o gynnyrch mynych gymdeithasau â'r ddau a myfyrio arnynt wedyn.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Mynych oedd y gwyliau drama tair act, a brwd, hyd at waed bron, oedd ymrwymiad y cyhoedd i'w cwmni%au bro, a pheryglus oedd hynt y beirniad druan fyddai'n gorfod hollti blew wrth bvwyso a mesur rhagoriaethau'r cystadleuwyr.

Daw'r galwadau mynych hynny yn bennaf o gyfandir Affrica lle mae'r gêm yn datblygu'n rhyfeddol yn ystod y degawd diwethaf.