Nid rhyfedd felly fy mod i'n amheus i'r eithaf heddiw o'r criw diwinyddol yma sydd mor uchel eu cloch ar i ni gofleidio'r myth a'i chusanu, ac ymbriodi â hi, a chodi teulu gyda hi.
Ac ~n yr ymdrech, mae'r stori yn trosgynnu ei hun i dir myth; yn troi'n ddeunydd tebycach i'r chwedlau oesol mawr am y wledd yng Ngwales, Brân ar Ynys y Merched, Cyrch Arthur i Gaer Siddi neu Beredur i'r Castell Grisial.
Er credu ohonof finnau yng ngwerth a lle'r myth.
Eithr nid myth mohono i'r dyneiddwyr, ond hanes gwirioneddol, fel y gwelir o edrych ar waith y pennaf o haneswyr Cymreig y cyfnod, Humphrey Llwyd.
Rhaid chwalu'r myth mai rhywbeth personol yn unig yw iaith a'i bod yn fater o gydwybod neu yn ddewis personol.
mae'r llyfr yn dilyn stori Catatonia o'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng Cerys a Mark yn gig Rhyw Ddydd ym Mhontrhydfendigaid (ie, myth yw'r stori am gyfarfod wrth byscio yng Nghaerdydd), trwy ddyfynnu erthyglau ac adolygiadau o bob math o gyhoeddiadau ar hyd a lled Cymru ar byd - canmoliaeth o bob cyfeiriad.
Swnia hanes sefydlwyr y Blaid fel myth mewn oes pan mae pawb eisiau mwy o hawddfyd, a mwy a mwy o arian i brynu mwy o bethau.
Ynghylch manylion y myth o ran ei gynnwys, a'i ddylanwad ar feddwl y Cymry hyd at y ddeunawfed ganrif, ni raid manylu yma.
Mae hanes y briodas yn digwydd ar lefel myth yn hytrach na nofel, sef fel patrwm o ddigwyddiadau ag iddynt ystyr symbolaidd nas gwireddwyd yn uniongyrchol drwy gysylltiadau ac amgylchiadau cymdeithasol y byd sydd ohoni.
Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.
Os yw'r awdur yn gallu creu darlun digon cryf o ofnau mewnol dyn, yna mae hi'n bosibl dehongli'r myth hwnnw yn berthnasol i bob cenhedlaeth.
Myth yw hynny.
Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth a goleddid gan wŷr di-ddysg a chyfyng eu gorwelion ydoedd y myth Brythonaidd yng nghyfnod y Dadeni.
Yn y rhamantiaeth ddirywiedig hon yr oedd ysfa i fynd o'r tu arall heibio i fywyd bob dydd a throi at fyth, myth a oedd, chwedl yntau: wedi ei seilio ar apêl at y gorffennol neu at brydferthwch pell, afreal, negyddol.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.
Llyfr yn dadlau nad oedd Gorllewin Gwyllt Hollywood yn ddim byd ond myth.