Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

naddu

naddu

A gwelodd o'i flaen, risiau eraill wedi'u naddu i gefn y boncyff, a'r rheini'n ymestyn i lawr, gan droi i'r chwith, at gangen drwchus.

Byddai rhain yn naddu cerrig a'u taflu, yn ôl Dafydd Jones, hyd at hanner milltir.

Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith.

Gellir cael darnau brasach ar gyfer cetyn ac rydym hyd yn oed yn gwerthu Twist sef y darnau o baco a gaiff eu naddu a'u torri gyda chyllell gan yr ysmygwr." O ystyried nad yw Eirlys Williams yn smocio ei hun mae'n gryn awdurdod ar gyfrinachau'r mwg.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.