Nid aeth i'r eglwys namyn dwywaith, sef ar fron ei fam, ac, ymhen ugain mlynedd, wrth ystlys un o'i gariadon.
Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.
Dwg i gof yn un peth amheuon Gruffydd am agwedd dybiedig ddilornus Lewis at yr Eisteddfod fel dim namyn 'gwyl y bobl.' Dengys hefyd fel y syniai Gruffydd am y gwahaniaeth barn o'r cychwyn fel dadl foesol yn ogystal a dadl esthetig, fel ymladdfa gwerthoedd.
Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.
Eleni, hefyd, ar ôl i'r Gymdeithas fod ar yr hen ddaear yma am deugain namyn dwy o flynyddoedd fe lwyddwyd i wneud rhywbeth, chwyldroadol, na wnaethom erioed o'r blaen, sef apwyntio dau gadeirydd.
Mae he'n gan mlynedd namyn wythnos ers i'r meini fynd lawr at yr afon i dorri eu syched ddiwethaf." "Felly, ymhen yr wythnos, bydd y meini yn codi a phowlio i lawr i'r cwm unwaith eto?" meddai'r asyn.
Ychwanegodd nad oedd yn hollol fodlon fod trefi mawrion Lloegr yn gwneud dim namyn cynnig rhyw gydnabyddiaeth fechan yn unig i Gymru am rodd mor amrhisiadwy.
Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.
O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.
O bell, mae'n debyg yr atgoffid rhywun o'r cynbrifweinidog Lloyd George, Dewin Dwyfor, namyn sglein Westminster wrth gwrs, a namyn y joie de vivre cynhenid hwnnw ddaw o fod wedi eich magu ym Mhen Llþn.
Prin fod brethyn yn aros o doriad Robert Jones, y Teiliwr; ac nid yw'r adeilad a arferai fod yn Dafarn namyn Siop, ac ni werthir dim yno sy'n gryfach na Lucosade!
Nid yw'r Gymraeg a glywir mewn ambell gylch yng Nghymru heddiw namyn braiaith esgymun a chwbl ddiurddas.
'Yr oedd cant namyn un o'r praidd mewn hedd/Dan ofal y bugail o hyd...'
Ac ni allai Waldo namyn estyn ei fraich i ysgwyd llaw â'i ewythr.