Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nanhoron

nanhoron

Yna ymlaen i Gapel Newydd, Nanhoron, lle'r oedd Mr Tudwal Jones Humphreys yn ein disgwyl.

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Plas Nanhoron fydd y stop nesa'.

Bachgen tawel arall a ddaw i'm cof, un a fu'n gweithio gyda ni fel un o'r myfyrwyr yn ystod yr ha', oedd un o ardal Nanhoron a ddaeth yn fardd y Goron.

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Er bod y cwmwl 'ma sy' wedi goddiweddyd Teulu Nanhoron yn taflu 'i esgyll droston ni i gyd.' Am foment ciliodd y sirioldeb o wyneb yr offeiriad.

Ond roedd yna odreuon arian i'r cwmwl hwnnw oherwydd, yn ôl yr wybodaeth a ddaeth i Blas Nanhoron, roedd Capten Timothy Edwards yn hwylio adref ar fwrdd yr Actaeon ac i gyrraedd Prydain at ddiwedd Awst.