Yr oedd y Cyfundeb wedi sefydlu eglwysi ers rhai blynyddoedd o bobtu Peniel, sef yn Nantglyn a Phrion, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yn y Lawnt, lle bychan rhwng Peniel a Dinbych, ac hefyd yn Nhŷ Coch sydd ar fin y ffordd rhwng Dinbych a Nantglyn ac ar gyrion ardal Peniel.