Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

napalm

napalm

Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.

Awyrennau'r Unol Daleithiau yn gollwng bomiau napalm ar Fietnam.

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.