Castall C'narfon ydy o!' 'How dare you!' gwichiodd llais wrth i'r gelen a'r broga Iygadu'r porth.
Ac wrth iddynt gyrraedd yr ail borth, lle cerfiwyd cerflun o chwilen gorniog fygythiol uwchben y drws, bloeddiodd yn syn, 'Castall C'narfon!
Maen nhw wedi dwyn castall C'narfon, Ffredi!' Roedd Ffredi, ar y llaw arall, yn teimlo'i fod wedi dychwelyd i'w freuddwyd unwaith eto ac, ymhen ychydig, byddai yn ei gael ei hun yng nghynhesrwydd croesawus y neuadd ac yn gweld Nansi.
Gofynnodd, yn ddistaw, 'P-pam mae o'n debyg i g-gastall C'narfon, 'ta?'