Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nawdd

nawdd

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

Yna, o dan nawdd Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, bu ganddo o bryd i'w gilydd ddosbarthiadau ym Mwlch-y-groes, Pencader, Dihewyd, Rhydlewis, Bwlch-llan, Ceinewydd, Llanrhystud a Llwyncelyn.

Y cynhyrchwyr a redai'r ffatri, drwy bwyllgor oedd yn gyfrifol hefyd am weinyddu cynllun yswiriant a nawdd cymdeithasol.

Mae Gweinidog Nawdd Cymdeithasol yr Wrthblaid, David Willetts, yn gwadu honiadau Llafur y byddai'r pensiynwyr tlotaf yn dioddef.

Croesewir y cynnydd yn y nawdd a ddaw o du'r llywodraeth, ond y mae ystadegau yn dangos fod yr anghenion ymhell o'u diwallu.

'Roeddynt yn sylweddoli'r siom a fyddai hyn i'r Awdurdod, yn llwyr gytuno ynglŷn â'r angen, ond o'r farn mai trwy gydweithrediad rhwng yr holl Awdurdodau Addysg yng Nghymru dan nawdd Corff Cenedlaethol fel Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru y dylid symud ymlaen, yn hytrach nag unrhyw Awdurdod Addysg yn gweithredu ar ei ben ei hun.

Bu'n ddiweddarach yn ymchwilio, dan nawdd y Cyngor Ysgolion, i broblemau dysgu a phrofion gwrando/ llafar.

Nid syn felly eu bod yn ganolfannau nawdd o nod, yn enwedig yn nyddiau abadau llengar.

Derbyniai nawdd gan amryw o wŷr mawr y cyfnod, a'r rheini'n weinidogion dylanwadol yn ddieithriad, megis Thomas Rees, Abertawe, W.

Ar hyn o bryd mae pecyn adnoddau yn cael ei baratoi a fydd yn gymorth i ganghennau a darpar ganghennau a chafwyd nawdd gan nifer o awdurdodau lleol ar gyfer cyhoeddi'r pecyn.

At Gymdeithasau'r Orsedd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Cymmrodorion, i ofyn am eu nawdd i Gerdd Dant, a'u bod hwy i reoli neu ddeddfu bod y delyn a'r canu penillion i gael eu priod le ar raglenni'r dyfodol.

Mae hefyd yn ffaith galonogol fod y prosiect wedi derbyn nawdd amrywiaeth o gyrff cyhoeddus gan gynnwys HTV a Gwasg Rhydychen, eto yn arwydd pellach o'r ymddiriedaeth yng nghwerth a llwyddiant y gyfres hon.

Y perygl arall gyda nawdd, ychwanega Gruffydd, yw gwneud pobl yn ddiog a bodlon eu byd.

Go fratiog fu unrhyw nawdd a gynigiwyd o du Cyngor y Celfyddydau neu'r Cyngor Llyfrau, ac felly rhwng cromfachau y sgrifennwyd y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg.

Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth Gymraeg o dan nawdd yr eglwysi a'u gweinidogion.

Yn ystod abadaeth rhyw Sion y canodd Llywelyn Goch y Dant ei awdl foliant i 'groestai Nedd', 'Neuadd beirdd a'u nawdd a'u bwyd'.

Cafwyd nawdd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer y rhaglen i hyfforddi gwirfoddolwyr a chyhoeddi pecyn o adnoddau a llawlyfr gweithgareddau ar gyfer y canghennau.

Y mae'n briodol mewn llawlyfr a gyhoeddir o dan nawdd y Bwrdd Cenhadol inni gofio'r gwledydd y bu cysylltiad rhwng Cymru a'r gwaith cenhadol ynddynt.

Cafwyd nawdd ar gyfer y Ddysgwyl gan gwmni Rees Astley, Aberystwyth.

Ond twyll" oedd hyn yn ôl Alistair Darling, yr Ysgrifennydd Nawdd Cymdeithasol.

Drwy gymorth Grant yr Iaith Gymraeg, dan nawdd y Swyddfa Gymreig, sicrhawyd cyflenwad cynyddol o werslyfrau mewn amrywiaeth o feysydd i leddfu rhywfaint ar anghenion addysg Gymraeg.

Cychwyn Ymgyrch Senedd i Gymru dan nawdd Undeb Cymru Fydd.

Yn ôl y Cyfarwyddwr, Gareth Jams, roedd ganddyn nhw addewid nawdd tan ddiwedd y mis ond dim sicrwydd o ddim ar ôl hynny.

Nid peth hawdd oedd egluro gorff mor rhyfedd yw S4C - cyfuniad o wasanaeth cyhoeddus, gwasanaeth masnachol, yn cael arian gan y Llywodraeth a thrwy hysbysebion ac yn derbyn arian drwy nawdd.

Mae'r arholiadau yn cael eu cynnal o dan nawdd Cymdeithas Ryngwladol i Athrawon Dawnsio ac ar y Noson Wobrwyo roedd saith deg o blant ac oedolion yn derbyn eu gwobrau gyda balchder.

Mi gyfrannwyd yn helaeth ganddi yn ei chymdogaeth gyda Dilwyn, mi sefydlwyd y 'Clwb Strôc' ym Maesteg, roedd hi'n weithgar gyda Ffrindiau'r Ysbyty, yn aelod o'r Olwyn Fewnol, ac yn un o'r rheini oedd yn gofalu am yr anghenus a thlawd bob Nadolig o dan nawdd y Cyngor Eglwysi.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Yn ail dymunai gael bod yn nawdd santes cariadon ac yn drydydd fod heb gariad ei hun byth eto.

Ymhell cyn dyfodiad y KKK roedd denu a chadw nawdd yn creu problemau dyrys i olygyddion a newyddiadurwyr.

Pwnc llosg y byd roc y dyddiau hyn yw nawdd, ac mae gan Ankst farn bendant arno.

Rhoddir rhan dda o'r bennod i olrhain datblygiad astudiaethau tafodieithol yng Nghymru a gychwynnwyd yn niwedd y ganrif ddiwethaf, dan nawdd Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, dan lywyddiaeth yr Athro Anwyl, Aberystwyth.

Pe cawsai Bedwyr fyw, buasai yn awr yn cydarwain tîm o weithwyr o dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i lunio cyfres o eiriaduron ar enwau llefydd Cymru, tasg y mae hen angen ei chyflawni.

O'r dechrau datblygwyd cyrsiau, gyda nawdd Cyngor Cyllido Cymru, a oedd yn defnyddio sgiliau a methodoleg dysgu pynciol fel cyd-destun i ddatblygu iaith.

Ar ôl clywed beth oedd gan Reolwr y Llewod, Donal Leniham, a Graham Henry i'w ddweud, hefyd, nin sicir nawdd bydd en gallu gwneud y ddwy swydd.

Erys bri ac urddas ynghlwm wrrth enw Arthur o hyd, ac y mae'n werth gan y bucheddwr gyfeirio ato fel un a roes ei nawdd i'r eglwys leol.