Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nawn

nawn

Y diwrnod canlynol, es yn ôl y trefniant ar y "tiwb" i gyfarfod â Peter erbyn canol y p'nawn, ac yna i ffwrdd a ni i godi Larry, myfyriwr o Americanwr a oedd hefyd am ddod gyda ni.

Oddeutu'r pum cant, fwy neu lai, sydd yn cystadlu yn Adran Llên y Genedlaethol bob blwyddyn, er bod pum mil a mwy ar b'nawn Iau yn ysu am roi 'u llinyn mesur ar 'u tipyn ymdrechion nhw hefyd.

Mi fydd y rhaglen yn cael ei darlledu nos Lun Chwefror 12 am 18:10 ac wedyn yn cael ei hail ddarlledu b'nawn Sadwrn am 12:30.

Diwedd y p'nawn 'roedd Peter wedi deffro, felly dyma'r tri ohonom yn mynd i ganol y ddinas.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

Erbyn y p'nawn roedd hi'n barod i fynd am dro ac fe gychwynnwyd drwy'r dref.

'Mae gan bawb hawl i newid, siawns gen i.' A threuliwyd gweddill y p'nawn yn astudio ffenestri siopau ac yn yfed te mewn tŷ bwyta yng nghanol y dref.

I gael clywed y rhestr i gyd cofiwch am Y Goeden Roc nos Lun am 18.12 ac wedyn b'nawn Sadwrn am 12:30.