Nawr gall tair cenhedlaeth fwynhau trysorau Llyfr Mawr y Plant yn y Mileniwm nesaf a rhannu'r profiad darllen unigryw hwn unwaith eto.
ac mae Proffesor Dalton wedi awgrymu y gallech chi a'ch teulu gael y tŷ 'ma nawr - gan fod tai'n brin iawn yn y pentre 'ma, ac fe fydd rhaid i chi gael rhywle ..." "Fe fyddwn i'n falch iawn o gael y tŷ os yw e'n wag, Cyrnol Grant.
'Mae'n bwysig, nawr, bod ni'n aros yn yr Adran Gyntaf yn y dyfodol.
Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.
Mae Villa nawr wedi codi i'r pumed safle ac Everton nawr yn bymthegfed.
Tro'r ail garfan nawr, a dysgais am dair wythnos eto, a sioe ar ei therfyn fel o'r blaen.
"Rwyt ti'n siarad fel Methodsyn nawr, grwt!" atebodd.
"Mae e wedi ei anfon i Dy'r Arglwyddi nawr, ond mae gen i deimlad y bydd yn cael ei anfon nôl i Dy'r Cyffredin.
Wi'n dweud hyn am 'i bod hi wedi gofyn i ti helpu gyda threfniade'r angladd - a chan fod rheiny nawr ar ben, fydd gen ti ddim esgus dros alw'n rhy amal yn Maenarthur.'
Roedd hi'n dechrau tywyllu nawr a doedd e ddim yn hoffi bod tu allan yn y tywyllwch ar ei ben ei hun.
Holl ddigwyddiadau'r noson cynt; breuddwyd llygad Duw, ei chynnwrf gyda'i thad, ymdrech y gof i ymgrogi a nawr eto llais bach Robin a llythyr Hannah.
Yr oedd hi'n dechrau nosi nawr ac ni allent weld ond ffurf y tŷ mawr rhyngddynt â'r awyr, rhiw silŵet llwyd ar "sgrin" ruddgoch y machlud tua'r de-orllewin.
Fel y gwelwch chi mae ffaith a ffuglen, yn ogystal â'r hyn a ddigwyddodd gynt a'r hyn sy'n digwydd nawr, wedi cael eu cydblethu yn y stori ryfedd ac enwog hon.
Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.
Dwi isie esboniad nawr.
'Rydyn ni'n siarad am 37 o chwaraewyr nawr,' meddai.
Fy rheswm dros ddibynnu ar y plu yma yw fod yr Arian Glas yn bluen oleu a'r Ceiliog Hwyaden Corff yn dywyll Beth bynnag fydd amgylch lliw gwiniadau'r tywydd a ffansi'r sewin mae'r ddau ddewis nawr gennyf ar yr un blaen llinyn.
Wy a Dyff 'di hala ffortiwn fan hyn dros y blynydde a ma'r Karen fach 'na sy'n berchen y lle yn neud mwy byth o ffortiwn nawr.
Mae goff ar gael i fwy o bobol yng Nghymru nawr, ond mae'n dal i gael ei gweld falle'n elitaidd.
Fe allwch chi eu gollwng nhw'n rhydd nawr.' Heb betruso am eiliad aeth y cwn yn syth at y parsel brown mawr.
Wnaiff siarad ddim ei helpu hi nawr." "Ond fe allai siarad am y peth ein helpu ni." "I beth mae eisiau help arnom ni?
'Ond mae tamed bach o siap yn dod arnon ni nawr a mae'n rhaid i ni gryfhau rhai safleoedd eraill yn y garfan.
Llwyddes i ffeindio Craig drw fy mowyd." Ymlaen wedyn: "Wen i'n darllen y Beibl drwddo o'r dechre i'r diwedd pan wên i ar y môr ond nawr fydda i yn cadw at y Salme a'r Testament Newydd.
Nawr fe wyddwn i, Yorath a rhai o'r chwaraewyr eraill fod Mickey yn casa/ u hedfan ac roedd 'na daith hir iawn o'n blaene ni.
Yr oedd taid a nain arfben eu digon yn cael cwmni'r ddwy, ac mae hiraeth ar eu hol nawr y maent wedi dychwelyd adref.
Roedd hi'n bryd mynd nol yno nawr.
Yng ngoleuni'r newidiadau sydd ar y gweill o ran newid ffiniau a swyddogaeth unedau llywodraeth leol, nawr yw'r amser i bwyso am y ddarpariaeth benodedig hon.
Mae'n rhaid trafod y peth 'fel busnes' nawr a daw geiriau fel 'cynyddu' ac 'elw' a 'chredyd' ac 'ail-fuddsoddi' yn rhan o'u siarad beunyddiol.
Mae Abertawe nawr wedi disgyn i'r 19ed safle yn y tabl.
"Paid, cariad, 'thal dagrau ddim nawr.
Trueni iddi ddod i'r stapla nawr, grwgnachodd wrtho'i hun - dim ond pum munud arall a bydda fe wedi mynd ar garlam tuag at lethrau Mynydd Llangatog ac fe byddai hi wedi gorfod aros amdano nes y dewisai ef ddod nol ac erbyn hynny fe fyddai'n rhy ddiweddar i gychwyn nol i Benderin.
Roedd yn anodd credu fod y rhai oedd yn gyfrifol, nid yn unig wedi osgoi cael eu cosbi, ond nawr yn cael eu cydnabod gan fwyafrif llywodraethau'r byd fel gwleidyddion cyfreithlon.
`Hwrê - nawr beth sydd yn ...?' Tawelodd y lleisiau.
Ond ble mae nawr?
Mae hi'n aros gyda Doctor Wills a'i howsciper nawr ers angladd 'i gŵr.
Nawr, nid moesoli yn erbyn benthyca arian yw pwrpas hyn o druth.
Ond nawr, wedi ichi gael ryw hwb bach, does dim dal arnoch chi', chwedl Mona wrth iddo droi'n fwyfwy hyderus.
LIWSI: (Tra'n symud) Hynny ydi, down i ddim yn disgwyl iddyn nhw ymddwyn yn union fel gwnaethon nhw nawr.
Fe guron nhw Grimsby neithiwr, 4 - 1, a maen nhw nawr bedwar pwynt ar y blaen i Bolton gyda thair gêm ar ôl.
Mae'n edrych yn annhebygol nawr y bydd Lee Trundle yn chwarae eto i Wrecsam y tymor hwn.
Er hynny, roedd prydferthwch rhai o ferched y cwmni a oedd nawr yn trefnu i wersylla ochr yn ochr a'r Senwsi yn syfrdanol ac annisgwyl.
`Mae'n rhaid i ni eu helpu nhw nawr,' meddai Gunnar, gan edrych i weld a oedd criw'r hofrennydd yn fyw ar ôl taro'r môr.
Llanelli a'r Athrofa sydd nawr ar waelod y tabl.
Rhaid cyfaddef fod y ci yma nawr rywsut yn clytio peth ar ei unigrwydd chwithig ar ol colli'i wraig.
Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.
Fy nheimlad i oedd mai dim ond hyfforddwr o'r peder gwlad alle gael ei ddewis ond maen amlwg nawr nad felna mae hi.
Dydy canlyniad Cymru, yn colli 3 - 0 yn Portiwgal, ddim yn ymddangos cynddrwg nawr.
Nawr maen nhw'n awchu am gyfle arall.
Mae'r Gymdeithas wedi galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud safiad dros ddyfodol addysg yng Nghymru, ac yn galw arnynt nawr i ddangos ei hanfodlonrwydd fod Cymru'n cael ei hanwybyddu, unwaith yn rhagor, ac yn gorfod dilyn syniadau Lloegr.
Ble Rydw I Nawr?
Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.
'Mae jyst yr amser nawr i Mark Hughes i roi nhw mewn a gweld mor dda maen nhw'n gallu gwneud.
Fe enillodd Caerdydd ddydd Sadwrn dan reolaeth newydd a mae'n bwysig nawr bod nhw'n dechrau mynd am y bencampwriaeth.
Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.
Mae tynged Caerdydd nawr yn eu dwylo nhw'u hunain.
'Co ni nawr ar bwys y siop tsips.
Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.
Er cymaint fy ngofidiau yn Nhrefeca fe roddwn weddill fy mywyd nawr i ddod nôl.
Roedd yn gryn sialens, ond nawr, 12 mis yn ddiweddarach, gallwn ddatgan ein bod wedi cwrdd â'r sialens a hynny'n deilwng iawn.
Yn seremoni wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru 2000, enillodd Geraint Jarman wobr unigryw am gyfraniad oes i'r byd cerddorol yng Nghymru, a nawr mae S4C ar fin darlledu rhaglen arbennig i nodi ei gyfraniad anhygoel.
Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.
Byddaf nawr yn disgwyl ac yn hiraethu am ateb oddi wrthyt.
Mae nawr yn bedwar o'r gloch y prynhawn.
Roedd ei siwt dipyn bach yn rhy fawr iddo nawr oherwydd roedd ychydig o flynyddoedd wedi mynd heibio er y tro diwethaf y gwisgodd hi.
Nawr, roedd ganddyn nhw lolfa, ystafell fwyta, tair ystafell wely, cegin a thy bach.
mae'r record yma wedi aros am sbel fach nawr, meddai Robert wrth y Post Cyntaf y bore yma.
A pheidiwch a bod yn ddierth, da chi!' 'Ie, cofiwch nawr - galwch bob tro fyddwch chi'n pasio heibio i'r Llety!
Roedd plant yn gallu ei ddeall, ei fwynhau a'i werthfawrogi pan dueddai ambell adolygydd, efallai, i amau hynny nawr ac yn y man.
Dim ofn, er mwyn popeth, dim ofn, ofn fuasai'r teimlad mwyaf anaddas nawr.
`Fe allwn i neidio allan nawr a buaswn i'n ddiogel,' meddai Bob wrtho'i hun, `ond beth fuasai'n digwydd i'r lori - a beth fuasai'n digwydd i'r holl wragedd a phlant sydd yn y strydoedd ...?'
Nawr dyna ichi joban ddifyr nad oedd neb yn sôn amdani wrth drafod gyrfa pan oeddwn in gadael yr ysgol.
Garech chi 'i weld e nawr?" Gwrando eto.
"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.
'Nawr, nawr, beth yw'r gwylltu sy arnat ti?
Mae Croesoswallt nawr dri phwynt uwchben Llanelli.
Ond dwi'n siwr nawr, fis yn ddiweddarach, ar ôl cael amser i eistedd lawr a meddwl, y bydd e - os daw'r alwad ffôn - yn cael gair gyda'r wraig a phenderfynu wedyn.
Roedd y dynion wedi cilio 'nôl i'w gwersyllfa, heb benderfynu sut i weithredu, ond nawr neidiasant ar eu traed a rhedeg, pob un yn ôl ei nerth, tuag at eu gwaredyddion, a'r clwyfedig yn olaf, a'r gwaed o'r rhwymyn trwsgl am ei law ddarniedig yn ddafnau cochion ar y ddaear.
Nawr, y peth cyntaf yw paratoi swyn ar gyfer tyfu cynffon cath.
Nawr, mae'r dyn trwsio sosbenni yn gall iawn ac yn gwybod llawer o bethau.
"Rwyn teimlo'n dda iawn, nawr," meddai wrth BBC Cymru'r Byd. "Chwaraes i'n dda iawn ond methodd Stephen un neu ddwy bêl yn y ddwy sesiwn gynta.
Mae pethau wedi tewi nawr.
'Lwcus eich bod chi wedi galw nawr, ficer,' meddai Marian.
* Beth rydw i eisiau ei wneud nawr?
Caerdydd yw'r unig dîm all eu dal nhw nawr.
Nawr dwy i ddim am i chi gredu'i bod hi'n anfoesol mewn unrhyw ffordd - ond roedd hi'n bropor, boblogedd, a digon o fechgyn yn y pentre fydde'n barod 'i phriodi hi.
Yr un oedd nawr yn bygwth tanseilio'r fuddugoliaeth fawr trwy ymuno yn y gwrthryfel newydd yma.
Nawr, dyma'r ateb.
Nawr 'te, y bêl am eich bywydau.' Estynnodd ei law am y cwdyn, y wên yn llydan ar ei wyneb.
Ei chartref hi oedd y lle nawr, mae'n wir, ond ei thad fu'n gyfrifol am werthu'r lle i Nic yn y lle cyntaf.
Fydd e ddim gyda ni'n hir nawr.
`Nawr amdani ...' Tynnodd linyn y bwa gwydr ffibr yn ôl a saethodd saeth fry uwchben y wal.
Mae Villa nawr yn seithfed yn yr Uwch Gynghrair.
Pethau eraill oedd yn ei boeni nawr.
Gwrandewch ar hwn: Mae rhywbeth da gyda ni nawr, rhag ofn bydd rhyw rhiant, arolygwr neu bwy bynnag eisiau ei weld e...
"Ddim hanner cymin' o flode llonge yma nawr," meddai un, "a sdim profiad o waith sa'r llonge 'da ti, a ma' gneud mastia a rhwyfe a chwche yn waith gwahanol iawn i 'neud rhacane a phladurie a dryse a cherti." Digalon iawn.
Gweledigaeth y Cynulliad Cenedlaethol yw gweithio fel 'bydd y Gymru yr ydym yn ei chreu nawr yn wlad well i fyw a gweithio ynddi yn y dyfodol.'
Rydym wedi galw ar i'r Cynulliad sefydlu Tasglu Technoleg i sicrhau fod presenoldeb technolegol gan y Gymraeg, bod adnoddau electronig yn cael eu creu ynddi ac fod cynllunio ym maes technoleg yn digwydd nawr ar gyfer y dyfodol.
Rhaid i ni nawr wneud yn siwr ein bod ni'n gwneud y pethau syml yn iawn a bod yn gywir yn yr hyn rydyn ni'n drïo wneud.
Gobeithio nawr y galla i fynd mlaen a sgorio rhagor.
Nawr, os deallodd o hyn, mae on gwir haeddu bod yn Brifweinidog.