Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nechrau

nechrau

O ganlyniad i'r newidiadau mawr a ddilynodd gau'r Gors yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, crewyd rhwydwaith gymhleth o sianelau geometrig.

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

Agorir y llenni yn nechrau Meini Gwagedd ar gegin yr hen dyddyn adfeiliedig ar Noson Gŵyl Fihangel, 'yn unrhyw un o flynyddoedd y ganrif hon'.

Yn nechrau'r ganrif hon cafwyd ymgeision ffurfiol i wella anifeiliaid traddodiadol Cymru trwy sefydlu cymdeithasau ar gyfer y Defaid Mynydd Cymreig a'r Gwartheg Duon.

Gobeithiaf y bydd yn damaid bach i aros pryd ac yn ddigon i godi blys ar y darllenydd i fynd ati i chwilota drosto'i hun yn nechrau'r haf.

Fo oedd y drwg yn y caws yn ddieithriad a'r cysgod cyson ar fy mywyd yn y cyfnod ifanc hwnnw yn nechrau ein hail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd.

Fe'u cynhaliwyd yma tua diwedd y ddeunawfed ganrif neu'n gynnar yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gyda'r esgus eu bod yn archwilio'r gwahanol bosibiliadau, gwnaeth Awdurdod Addysg Ceredigion arolwg yn nechrau 1998 o'r ddarpariaeth o addysg gynradd yn y sir.

Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.

Yn nechrau'r pumdegau fe ffurfiwyd adrannau, sef Adran y Gogledd, Adran y De a'r Adran Ganol, pob un gyda'i phwyllgor, ei swyddogion a'i chyfrif banc.

Ceid bron hanner cant yno pan oedd lawnaf a'r rheini, o leiaf yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, yn cadw rheolau disgyblaeth yr Urdd Sistersaidd yn fanwl.

Fe fu peiriant felly yn gweithio yn y Muriau yn nechrau'r tri degau, ond am gyfnod byr y bu hynny.

Yn nechrau'r 1990au, aeth Alun Llwyd a Branwen Nicholas i garchar i ddangos mor bwysig oedd yr ymgyrch.

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

Ar y llaw arall cadwai rhai gweinidogion ysgolion, megis y gwnaeth Roger Howells yn y Baran uwchben Cwmtawe yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Blodeua'r tegeirian prinaf yn nechrau mis Gorffennaf sef y tegeirian llydanwyrdd Platanthera chlorantha, â'i flodau gwyrdd a gwyn yn rhoi gwawr lliw hufen i'r caeau.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.