Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch, felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn.