Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.
Ond pa mor eang bynnag fo'r un ohonyn nhw neu pa mor ddyfn ac astrus bynnag, 'does yna yr un ohonyn nhw wedi mynd â lle Nedw.
Ond er fod darnau o gymaint o bobol oeddem ni yn nabod yng nghymeriadau Nedw, yr oedd pawb ohonyn nhw yn bobl go iawn yn eu nerth eu hunain hefyd, ac ambell dro mi fyddai pobol y pentra yn troi yn ddarnau o gymeriadau Nedw.
Ond yn gwy na dim efallai, yr oedd Nedw yn siarad yn lle sgwennu.
Ychydig o ddim oedd yna i'w gymharu efo Nedw.
Yr oedd yna lun plentyn mewn sgert neu drywsus pen glin a sana beic a thamishantar yn gorwedd ar ei fol ar lawr yn darllen ar gornel isaf cas glas y gyfrol a adwaenwn i o Nedw, Tegla Davies.
Nid cyfnod Tomi a Nedw sydd yma chwaith- nid blynyddoedd y tlodi sur a'r crafu byw i deuluoedd mawr .
A hyd yn oed pan ddaeth Tomos Bartley a Touchstone þ wnaethon nhw ddim gwahaniaeth i Nedw.
Y rheswm cyntaf dros y gymeradwyaeth ddiamodol i Nedw ydyw ei fod wedi llenwi angen arbennig mewn lle ac amser.
'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.
Cyn bo hir fe ddaeth estroniaid fel William, Richmael Crompton i dreio rhoi ei gardia i Nedw a'i yrru o i ebargofiant, ond yr oedd hwnnw yn ormod o rwdlyn ac yn rhy hoff o wneud pethau gwirion i ddi-sodli Nedw byth.
Sþn fflamau tân glo yn llempian ac yn chwythu, aroglau lamp baraffin newydd ei golau, grwndi'r gath ar y mat yn gefndir i ddigwyddiadau amrywiol Nedw ac Wmffra.
'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.
Ond 'does yna yr un all roi yr un wefr wrth gofio amdanyn nhw ag a rydd Nedw.
Ond mi allech ollwng iddi hi efo Nedw a gwenu a chwerthin y faint a fynnech chi heb ennyn dig awdurdod na thynnu gwg y sefydliad.
Wrth gwrs, modryb-yng-nghyfraith oedd hi i Nedw fel nad oedd hi ddim yn tynnu'r teulu i lawr.
Mae yna lawer o lyfrau eraill wedi mynd â'r bryd a'r meddwl ar ôl i Nedw fynd yn rhan o lyfrgof y gorffennol.
Mae Nedw yn cael gwneud cymaint o bethau y carai pob llefnyn o hogyn deg neu ddeuddeg oed eu gwneud, o chwarae triwant yn y tyno ar bnawn o haf hyd at golli ei ben a'i galon i Jinny Williams am ddau o'r gloch y bore wrth yr Hen Ffynnon.
Un cysur sy'n aros þ fydd Nedw ddim yn newid, ac fe geidw beth o hynawsedd ei awdur i genedlaethau i ddod.
(Cyn i'r sbaniel gael cam, gweler y bennod 'Nedw' sy'n dilyn.) Gyda'i natur fonheddig a di-stŵr, gwnaeth Doctor Tudor swm mawr o ddaioni, nid yn unig yn ei syrjeri, ond y tu allan iddi'n ogystal.