Beth bynnag, mae'r giard yn amlwg yn amddiffyn fy ngwely i, oherwydd mae'n rhoi ei law arno, yn ysgwyd ei ben yn filain, ac yna'n troi ataf gyda gwen nefolaidd...
Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.