Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

negesydd

negesydd

Yn hanes Russell hefyd, mae'n bosib' gweld elfen arall a ddatblygodd yn thema gref yn hanes gohebu tramor; y modd yr oedd personoliaeth y gohebydd ei hun yn dod yn bwysig a'r negesydd yn mynd yn rhan o'r stori.

Yn ei gywydd 'Galw ar Ddwynwen' dymuna Dafydd ap Gwilym anfon y santes yn llatai, sef negesydd-serch, at ei gariad Morfudd.

Yr abad yw'r cyntaf a enwir o blith y rhai y gofynnir ganddynt am y rhodd wrth i'r bardd gyfarwyddo ei negesydd: 'Cyrch dai amlwg ...

Cofion gorau, Lludd Cludwyd y llythyr gan negesydd ar geffylau chwim rhwng y ddwy brifddinas.

Daeth y negesydd yn ôl gan ddweud bod y fyddin yn derbyn y cynnig.

Wedi pwyllgor sydyn, penderfynwyd gyrru negesydd at y fyddin oedd ar lawr y dyffryn gan gynnig ychydig gig, ychydig fara, ychydig win ac ychydig olew iddynt.