I'r mwyafrif, yr oedd y Beibl yn llyfr cwbl ddieithr, a chyfaddefodd llawer o'r milwyr na wyddent fod dau Destament yn y Beibl cyn iddynt fynychu 'Awr y Caplan', sef yr awr neilltuedig a roddwyd i'r caplan i gwrdd â'r bechgyn a'r merched mewn awyrgylch anffurfiol.