Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

neilltuo

neilltuo

Pan oeddwn i yno, cafodd ei neilltuo ar gyfer plant o Chernobyl oedd yn dioddef o effeithiau ymbelydredd.

Rhwng hyn a llai yn cael ei dyfu'n gyffredinol trwy'r cynllun neilltuo tir fe fydd haidd gwanwyn yn brin y gaeaf nesaf ac felly hefyd y gwellt sydd yn bwysig i ffermwyr yr ardal yma.

Ymddangosai mai'r ateb oedd cael rhediad o bibellau a'u gosod oddi wrth y rhan a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer chwaraeon, mewn cornel o'r iard chwarae.

Ni ddewisodd neilltuo'r naill iaith na'r llall i feysydd arbennig yn unig.

Hefyd, mae un cas arbennig wedi'i neilltuo ar gyfer eitemau dros dro, sy'n awr yn cynnwys eitemau ar fenthyg oddi wrth Gymdeithas Hynafiaethau Ynys Môn.

Dyma gartref cynghanedd ar y we a'r unig safwe rhyngweithiol sydd wedi'i neilltuo'n llwyr i'r gynghanedd a barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol.

O ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, gyda thwf heresi%au peryglus megis Waldensiaeth ac Albigensiaeth, dwysa/ u a wnaeth yr argyhoeddiad mai 'llyfr gosod', fel petai, i'w neilltuo ar gyfer uwchastudiaethau diwinyddol y prifysgolion oedd y Beibl.

Gwell, efallai, fyddai neilltuo'r tŷ gwydr ar gyfer tomatos a thyfu'r cucumerau grwn mewn rhych y tu allan.

Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.

Onid oedd y digwyddiad yna mor wahanol, mor eithriadol i'r patrwm cyson ac unffurf o ladd fesul un, nes i Wil Dafis fynd i dybied bron fod Ap wedi neilltuo rhyw sylw anffafriol iddo ef yn benodol?

Trefnwyd oedfa i'w neilltuo i'w waith.

Fe'i disgyblodd ei hun i neilltuo rhai oriau penodol bob dydd i hela'r ci llwyd; ac os gallai roi ychwaneg na hynny, popeth yn iawn, eithr nid esgeulusai'r un diwrnod cyfan heb ei fod wedi cyflawni'i gwota hunan-drefnedig o erlid.

Wrth neilltuo deuddeg o'i ddilynwyr i fod yn ddisgyblion iddo mewn ystyr arbennig yr oedd yn ymwybodol o addaster y rhif i roi arweiniad i ddeuddeg llwyth Israel.

Caent eu cynhaliaeth allan o gyfran o ddegwm yr eglwysi plwyf, sef arian a oedd wedi ei neilltuo i'r pwrpas arbennig hwnnw.

Gan nad yw'r Cynulliad â'r hawl i basio deddfwriaeth gynradd, pwyswn arnoch i fynnu fod senedd Westminster yn neilltuo amser penodol i drafod Deddf Addysg gyfochrog i Gymru fydd yn gweithredu barn y Cynulliad Cymreig.