Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nenfwd

nenfwd

Fe gydnebydd, er enghraifft, y byddai'r llofft orau'n well petai'r plaster heb ddod i lawr o'r nenfwd.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Ar ben y grisiau hongiai un lamp drydan wan o'r nenfwd gan daflu goleuni melyn ar y paent a godai'n swigod gwlyb ymhob man.

Taflodd rhywun siôl sidan un o'r merched tua'r nenfwd, a daeth sgrechiadau o chwerthin oddi wrth y grūp bychan o'u cwmpas yn gwylio'r dilledyn yn hedfan i lawr i'r llawr yn araf.

Cyn leinio muriau a nenfwd y twnnel â briciau, byddai rhywun yn cerdded drwy'r twnnel cyn i bob trên chwyrnellu drwyddo, i'r diben o wneud yn siwr nad oedd talp o graig wedi disgyn ar y trac.

Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.

Ar un olwg roedd yn enghraifft berffaith o'r darlun ystrydebol o'r artist yn ei nenfwd - yn ei achos ef, llofft ŷd ym Mynydd Mwyn - er na fuasai ef ei hun, mae'n wir, yn derbyn y ddelwedd honno.

Roedd yr aer yn oer a diferai dŵr o'r nenfwd gan lifo i lawr y waliau.

Aeth y 'golau tan glo' yr oedd mam Gwenno yn gwau hosan wrtho pan oedd Huwcyn yn edrych 'trwy dwll bach y clo' yn olau llachar bylb trydan yn crogi o ganol y nenfwd.

O'r nenfwd uwch eu pennau, o'r waliau o'u cwmpas ac o'r llawr oddi tanynt daeth tonnau gwynion o oleuni llachar.