Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nepell

nepell

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg þ un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

A go brin y byddai dau esgob o Gâl wedi mentro mor bell i'r gogledd ar yr adeg honno, er yn wir fod llawer llan yn y gogledd wedi cael ei chyflwyno i Garmon, gan gynnwys Llanarmon yn Iâl sydd heb fod nepell o Faes Garmon.

'Dwi'n cofio iddo wneud hynny mewn dwy fferm nid nepell o Fodffrodd sef, Cerrig Duon a Frogwy Fawr, ia fel yna y bydda nhad yn cael ei 'Supplementary Benefit'.

Mi es i ati, ond dim ond cael gwersi unwaith yr wythnos yn Llangollen, ond wedi symud i Manafon mi ges i afael ar Weinidog nepell o Lanbrynmair, Llanfair Caereinion ac mi es ati o ddifri wedyn i ddysgu.

Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!

Sôn am flyndar--canys dyna'n union sut y cefais fy hun yn Ysgol Uwchradd Fodern Roscommon Street a swatiai dan gysgodion y Braddocks nid nepell o Scotland Road.

Fe'n cludwyd i iard gefn yng nghanol tref Palembang, heb fod nepell o'r becws yr oedd gennyf atgofion mor hyfryd amdano.

"Chai si chwon gehrwp ener" - gan chwifio ei bolyn sgio at ben bryn bach nepell i ffwrdd.

Fflachiodd ei ffaglen ar y gro nid nepell o'r stop lle'r eisteddai.

Nid nepell o'r fan hon ar hyd yr arfordir y mae safle'r ymosodiad olaf a wnaed gan lu tramor ar dir y Deyrnas Unedig.

Gwelwyd datblygiad oherwydd dulliau newydd o gynhyrchu dur yn Nowa Huta, nid nepell o ganol Krako/ w.

Ar ôl yr antur hon i'r Alban penodwyd Ferrar yn brior priordy Sant Oswald, yn Nostell, nid nepell o Pontefract.

Codwyd nifer dda o guddfannau hwylus a chlud nid nepell o'r pyllau.

Ac wedi hwylio am dridiau neu bedwar, ni allai Ibn gofio'n iawn â'r criw i gyd yn dechrau anesmwytho ag anniddigo oherwydd eu bod yn gorfod dognrannu'r dŵr yn ofalus, fe benderfynwyd eu bod am angori llong nid nepell o'r lan, lle gellid gweld tŵr eglwys uwch y coed.

(yr oedd Sieffre o Fynwy wedi lleoli chwedl Brad y Cyllyll Hirion heb fod nepell o Gôr y Cewri) sydd yn awgrymu bod hynafiaethwyr y cyfnod yn dechrau amau ac yn gofyn am brawf bod y brad wedi digwydd.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Nid nepell o'r un eglwys hon ceir synagog.

Nid nepell o ysblander y farchnad y mae un o ardaloedd tlotaf y ddinas, lle mae degau o filoedd o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn cartrefi pridd.