Fe ddaeth gwth o wynt nerthol o rywle ac aeth yr awyr yn dywyll.
Felly, nid oes angen fflachlamp mor nerthol ar y laser Nd:YAG ag ar yr un rhuddem, lle mae'n rhaid codi egni mwyafrif yr atomau cromiwm o'r lefel egni wreiddiol.
Yr oedd yn drafodaeth nerthol a chofiadwy ac fe'i hatgynhyrchir yn y gyfrol hon.
Dechreuodd yr ymgyrch gyhoeddus gyda rali fawr a drefnodd ar lannau Tryweryn, lle y rhoddais rybudd mai unig obaith llwyddiant oedd ymgyrch nerthol iawn cyn i'r mater gyrraedd y Senedd.
Roedd injian dîsl nerthol yn cynnal y rheiny ac yn gyrru'r cwch pan nad oedd gwynt digonol.
Doedd hi ddim yn fawr ond yr un siap a blaen main y Concord, a gellid gweld dwy injan turbo nerthol ar ei thin.
Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.
Ein hangen mwyaf yw am dywalltiad nerthol ac arbennig o'r Ysbryd Glân.
Canys arf boliticaidd fwyaf nerthol y dydd hwn yw teledu.
Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .
Nid yw'r agerbeiriant nerthol, Ac nid yw y trydan 'chwaith, Wedi troi yn anghysegrol, Nac anserchol ddim o'n hiaith.
A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.
Yn ôl Syr Ifor Williams, awgryma'r enw ffrwd gref, un yn llifo'n nerthol.
Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.
Arswydus yw'r darlun ym mhaladr yr ail englyn, a'r ansoddair 'ddi-derfysg' yn arbennig o nerthol pan gofir mai terfysg a fwriodd y llanciau i'r dwfn.
Caniatâ inni adnewyddiad ysbrydol nerthol i'n deffro ni o'n cysgadrwydd ac i roi inni'r nerth i ailgodi'r muriau a ddrylliwyd ac i gau'r bylchau y rhuthrodd gelynion y Ffydd drwyddynt i anrheithio dy winllan.
Gweddi: Clod i Ti, y Duw nerthol am holl ryfeddodau'r Cread.
Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.
Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.
Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.
Mawrygwn Di am rythmau'r tywydd, am heulwen a glaw, tes a rhew, gwlith ac eira, y gwynt nerthol a'r awel dyner.
Yn y gorffennol anrhydeddaist hwy â thywalltiadau nerthol o'th Ysbryd Glân.
Yn y lle cyntaf, ysbeidiol ac oriog oedd y teimladau hyn, rhy bersonol hefyd, a heb fod yn ddigon nerthol i dorri drwy blisgyn confensiwn.
Cysylltid hwnnw â rhir ei gŵr, sef etifedd Nannau, i greu undod parhaol a nerthol.
Arf nerthol iawn yw streic.
Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.
Ac ni ddigwydd hynny heb dywalltiad nerthol o'r Ysbryd Glân ar yr eglwysi.
Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.
Ym mhen pella'r castell, roedd seithfed tūr, yn fwy na'r un arall, ac iddo ddeg ochr: pen anferth i gorff nerthol.