Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nesa

nesa

Rwyn siwr bod hyn yn addo'n dda am ornest y penwythnos nesa.

Roedd hyn yn gofyn am symudiad corfforol chwim, a chefais fy hun yn rhydd o'm trallod fel ag yr oedd y gadair nesa'n cyrraedd.

Fe gawn ni'r ateb i'r ddau gwestiwn yna o fewn yr wythnosau nesa.

Gwneud nesa peth i ddim.

Mae 'na gymaint o betha' i mi gael eu gwneud nhw wsnos nesa.

Ac mae gen i boints hefo hi eto Dolig nesa.

Tra yn nesa/ u at y drws fe glywai chwerthin uchel ac o sbecian drwy'r ffenest gwelodd ei wraig a rhyw ūr ifanc golygus yn sipian siampên ac yn amlwg yn cael hwyl iawn.

Tan tro nesa.' 'Ydi, mi wn i.

Clywai sŵn traed yn nesa/ u, sŵn brigau crin yn torri o dan esgid drom.

Yn y bedwaredd wylfa o'r nos, yn ôl dull y Rhufeiniaid o rannu'r nos, ymddangosodd yr Iesu iddynt, yn cerdded ar y môr ac yn nesa/ u at y cwch fel drychiolaeth (ffantasma).

Yn y gemau nesa wrth i'r râs am Ewrop gyflymu tua'r diwedd bydd Castell Nedd yn chwarae ei gêm ola yn erbyn Glyn Ebwy nos Wener.

Wrth nesa/ u at Llangefni, llifa'r nant drwy lyn a elwir yn Llyn Pwmp.

Mi oedd Mrs Robaits wedi nodio i gysgu go iawn, a'i cheg hi'n gorad, a'r peth nesa oedd i un o'r cregyn 'ma landio yn 'cheg hi.

Wedi nesa/ u at ddinas enwog ei genedl a chael cipolwg arni o un o'r llethrau cyfagos ni allai lai nag wylo wrth feddwl am y dinistr a fygythiai ei heddwch (Luc xix.

Roedd Swail ar ôl bod ar ôl naw ffrâm i saith yn erbyn Shayne Storey, yna enillodd y dair ffrâm ola a mynd rhagddo i'r rownd nesa.

Bydd Dalier Sylw yn gwneud un ddrama Gymraeg ac un ddrama Saesneg y flwyddyn nesa - a'r rheini gyda chast bach iawn.

'Y tymor nesa, y nod fydd gwneud yn well yn Ewrop.

Ella cawn ni 'rwsnos nesa.

Cyhoeddwyd y grwpiau ar gyfer Cwpan Heineken y tymor nesa ddoe.

Bu'n rhaid i ni aros am bedwar mis cyn chwarae gêm nesa'r grwp.

Fe fyddai hi'n tyfu i fod fwy felly dros y pythefnos nesa'.

Mae'r gêm hon yn rhan hollbwysig o gynllunie Graham Henry ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd nesa.

'Mae Manchester United wedi dangos bod ennill y Cynghrair yn dod yn hawdd iddyn nhw a'r cam nesa ydy cael llwyddiant cyson yn Ewrop.

Fe allai gyrfa liwgar John Hartson fod ar fin datblygu eto o fewn y dyddiau nesa.

'Roedd hi'n anodd iawn dod yn agos at y Doctor, ond o'r diwedd dyma fe'n nesa/ u; ond wrth nesa/ u, fe welodd wyneb y Doctor yn newid i fod yn wyneb ei ewythr Wil.

Plas Nanhoron fydd y stop nesa'.

Mae'r corff sy'n rheoli snwcer, y WSA, ar fin cyhoeddi eu hymateb i gynlluniau TSN i ffurfio cylchdaith newydd o gystadlaethau fydd yn cynnwys Pencampwriaeth Byd fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Phencampwriaeth y Byd Embassy y flwyddyn nesa.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi cadarnhau y byddan nhw, yn eu cyfarfod blynyddol fis nesa, yn trafod creu trydydd tîm proffesiynol yn yr Alban.

Bydd maswr Cymru, Neil Jenkins, yn cael triniaeth yn gynnar yr wythnos nesa ar fân-anaf i'w ben-glîn.

Be mae Henry am wneud yn y ddwy neu dair gêm nesa fydd paratoi am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl Nadolig.

'Mae wedi bod yn dymor siomedig - mae'r haf i ffwrdd gynnon ni a rhaid i ni weithio'n galed ac edrych ymlaen i'r tymor nesa.

Cynhyrchwyd yr ep newydd gan Bob Galvin o'r grwp The Real Thing ac yn ystod y ddau fis nesa mi fydd Epitaff yn mynd ar daith hyrwyddo.

Wrth i ti nesa/ u at y bont fe weli filwr yn sefyll ar y tŵr.

Dyna'r dasg nesa.' Yr oedd ei frawddegau mor fyr â'i gamau, a'r geiriau'n cael eu poeri allan fel pe bai ei larings yn beiriant moto beic.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn nesa rwan a gobeithio cawn ni fynd fyny'n ôl yn syth.

Ar hyn o bryd nifer afrwydd o glybiau fydd yn y cystadlaethau hynny y tymor nesa - ond fe allai hynny newid ddechrau tymor 2002.

Yn rownd yr wyth ola fis nesa bydd Lerpwl oddi cartre yn Southampton neu Tranmere, Arsenal gartre yn erbyn Bolton neu Blackburn, West Ham yn wynebu Tottenham a Chaerlyr yn erbyn Wycombe neu Wimbledon.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

Bydd pwyllgor llawn y Bencampwriaeth yn trafod y syniad yn gynnar fis nesa.

Roedd y lifft gadair nesa' ar ei ffordd i fyny ac yn beryg o agos i mi.

Roedd y cyhoeddiad yn ymgais amlwg i dreio dynnu'r colyn o'r feirniadaeth groch sy'n debyg o'u hwynebu yn ystod yr wythnos nesa' - nad ydyn nhw'n gwneud dim ond penodi pobol i swyddi.

Bydd Cymru'n cynnal rownd o gyfres rygbi saith-bob-ochr y byd yr haf nesa.

Bydd Huddersfield yn yr Ail Adran efo Wrecsam a Chaerdydd y tymor nesa.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Gwyddwn y buasai'r teithiwr nesa' yntau'n methu dod oddiarni, neu y buaswn i'n cael fy nharo'n anymwybodol ganddo ef neu'r gadair.

Bydd Lerpwl yn ôl yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fis nesa.

'Abertawe sy 'da ni nesa.

Petae Cymru yn ennill, byddan nhw'n wynebu Sir Gaerlyr yn y rownd nesa.

Efallai bod y dryswch ynglyn â phatrwm prif gynghrair Cymru y tymor nesa ar fin cael ei ddatrys.

'Nabododd William Huws berchennog y llais nesa' a phenderfynodd roi gordd arno.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

Dywed yr Ysgrifennydd Cyffredinol, David Collins, y gallai adroddiad y dyfarnwr, Mark Cowburn, gyrraedd cyn diwedd yr wythnos ac y byddan nhw mewn sefyllfa bryd hynny i drafod y cam nesa.

Y gred ydi y bydd y mesur newydd yn cael ei gynnwys yn araith y Frenhines fis nesa.

Felly, edrychwch yn ofalus ar y gūr neu'r cariad y tro nesa y bydd yna ffilm go emosiynol ar y teledu, rhag ofn i chi ddigwydd ei ddal yn sychu'i lygaid yn slei back efo cefn ei law.

Gall Caerdydd edrych ymlaen at gêm gartre yn erbyn Cheltenham yn yr ail rownd fis nesa a chroesawu'r amddiffynnwr Rhys Weston o Arsenal i Barc Ninian.

Ac ar ôl cyfarfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a chynrychiolwyr y clybiau neithiwr mae gobaith bod y broblem ynglyn â strwythur y tymor nesa yng Nghymru wedi'i ddatrys.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

'Ond dyna benderfyniad y Pwyllgor, a fel dwedes i, rwyn meddwl bydd y Pwyllgor Cyffredinol yn cwrdd â'r clybie eto yr wythnos nesa.

Mae'r dryswch ynglyn â beth fydd yn digwydd nesa yn parhau.

Yn y rownd nesa bydd Abertawe yn wynebu Caerfyrddin ar y Vetch a TNS yn gorfod teithio i'r Barri.

Yr unig nodyn di-galon i Gymru oedd ail gerdyn melyn i Robbie Savage sy'n golygu ei fod wedi ei wahardd rhag chwarae yn y gêm nesa yn Armenia ym mis Mawrth.

Clywais Mam yn dweud lawer gwaith fel y byddai Hannah Jones, a oedd yn byw drws nesa', yn gweiddi arni: 'Jane, well i chi fynd i nol yr hogyn bach 'na.

Treuliais yr hanner awr nesa' mewn gwewyr.

Hefyd, bydd yn gwneud sesiwn i Gang Bangor yn ystod yr wythnosau nesa.

Swindon reolodd ran fwyaf o'r gêm ond Wrecsam sgoriodd nesa.

Y sesiwn nesa' oedd gweithdy gan Ben Gregory - ein swyddog codi arian - sydd wedi ennill profiad ymgyrchu helaeth yn y flwyddyn ddiwetha' wrth weithio i'r mudiad Jiwbili 2000.

Mae'n dod i'r pen yn y frwydr am y pumed safle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa.

'Mi ddo' i yr wythnos nesa.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Bydd rhaid i'r unigolion a'r unede weithio dipyn yn well wythnos nesa.

Fe allai Ryan Giggs golli dwy gêm nesa Cymru yn rownd ragbrofol Cwpan Pêl-droed y Byd.

Gan fod hynny'n opsiwn dwedodd hefyd y bydde'n ffôl i beidio'i ystyried a mae'n dishgwl i'w reolwr gael gair gyda Graham Henry yma yn Brisbane dros y dyddiau nesa.

Hwyrach y cewch chi well lwc y tro nesa'.' `Hwyrach hynny,' ebe Harri, `a mi wn pwy i'w ddilyn y tro nesa'.

Y sefyllfa fel mae'n sefyll ar hyn o bryd yw mai ieithoedd Lwcsenbwrg yw'r unig ieithoedd a fydd yn derbyn arian o gyllid Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd y flwyddyn nesa, hyn am fod yr ieithoedd hyn wedi eu clustogi yn ieithoedd swyddogol oddi fewn i'w cenedl wladwriaethau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yr wythnos nesa' yn ddechrau ar gyfnod newydd ym mywyd Cymraeg Cwm-nedd a Chwm Dulais.

Caersws fydd yn chwarae yn erbyn Y Barri yn rownd derfynol Cwpan Gilbert fis nesa ar ôl ennill 4 - 0 yng Nghroesoswallt yn ail gymal y rownd gyn-derfynol.

Gyda Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dridiau i ffwrdd, roedd Lerpwl neithiwr yn dal i drïo sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa.

Roedd yn amlwg bod John Hollins yn paratoi at y tymor nesa drwy roi cyfle i'w chwaraewyr ifanc.

Wn i y nesa peth i ddim am adar, mewn gwirionedd .

Dwi wedi datgan fy mwriad i roi'r gorau iddi yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gwanwyn nesa.

Ar ôl dod mor agos at gyrraedd yr wyth ola y tymor diwetha, bydd Llanelli yn yr un grwp a'r deiliaid - Caerlyr - y tymor nesa.

Cofiwch gymryd y cam nesa efo'r ddwy ohonyn nhw pan fyddan nhw yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bae Colwyn yn y dyfodol agos.

Yn nesa gosodwch y cyrchwr ar ôl Wali Tomos ac o'r ddewislen Edit dewiswch Paste; mae hyn yn gosod beth bynag sydd ar y Clipfwrdd i mewn lle mae'r cyrchwr yn fflachio.

Mae'r canlyniad hwn yn golygu na fydd Barcelona yn y rownd nesa.

Bydden nhw'n disgyn o'r brif adran ddiwedd y tymor hwn, a tasai clwb o'r Alban yn cymryd eu lle nhw y tymor ar ôl nesa, fe fyddai yna deimlad - cyfiawn, o bosib - bod rygbi'r Alban yn cael ei hybu ar draul rygbi Cymru.

Mae Clwb Rygbi 13 St Helens yn mynnu bod yn rhaid i Anthony Sullivan a Keiron Cunningham fynychu diwrnod i gydnabod y cefnogwyr ddydd Sul nesa a hynny ar draul hedfan i Dde Affrica gyda charfan Cymru sy'n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Rheinos De Affrica.

Fe galliodd pawb ychydig pan gollodd Cymru eu dwy gêm nesa o gôl i ddim yn erbyn yr Alban ac yn erbyn Gogledd Iwerddon.

Rydyn ni wedi cael cadarnhad o'r diwedd y bydd naw clwb yn y Cynghrair tymor nesa.

Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.

Pan fydd eich plant chi, ynghanol y ganrif nesa, yn galw eu plant nhw yn Rocet a Shuttle a phethau cyffelyb fe fyddwch chi'n meddwl am mam.

'Ond rwyn credu bod Graham Henry yn dishgwl ar Gavin Henson i'r Cwpan Byd nesa.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

Yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop roedd Leeds United o fewn eiliadau i gyrraedd y rownd nesa.

Roedd cyrff yn frith ar fin y ffordd o'r maes awyr i bencadlys Cronfa Achub y Plant, a oedd wedi cynnig llawr i ni am yr wythnosau nesa'.

Cyn y foment dyngedfennol honno mae'r oriau weithiau'n gallu troi'n ddyddiau o fyw'n gynnil ar y nesa' peth i ddim gwybodaeth.

Ond pan glywsant fod y difrodwyr yn nesa/ u, rhoesant orchymyn i'r Cymry guddio yn y coed a disgwyl heb symud nes i'r gelyn gyrraedd.

Hyd yn oed i rywun fel fi, sydd a'r nesa peth i ddim diddordeb mewn pêl-droed, roedd digon yn y rhaglen hon i gadw fy sylw, er gwaetha goslef llais soporiffig John Ogwen yn cyflwyno.

Ar yr wyneb, felly, mae patrwm y cyfnod hyd at yr etholiad nesa' yn glir.

Maen nhw wedi baglu o un rownd i'r nesa ac ar ôl cyrraedd yr wyth ola falle mai dyna'r gorau oeddan nhw'n ddisgwyl.

Mae'r Cymry Garry Houston, Mark Pilkington, Steven Dodd a Mark Mouland yn gwybod os gwnan nhw barhau yn eu safleoedd presennol yn rownd ragbrofol olaf y gylchdaith golff Ewropeaidd yn Sbaen y bydd gan bob un docyn ar gyfer cylchdaith Golff Ewrop y tymor nesa.