Wrth nesu at Lyn Llydaw fe gerddwch yn gyfochrog â'r bibell ddþr newydd sbon danlli sy'n nadreddu tua gorsaf drydan Cwm Dyli.
Roedd wedi ymgolli cymaint yn ei gynllun, fel na sylwodd eu bod yn nesu at y wernen.
Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.
Wrth i'r fyddin nesu, aeth y gwerthwyr a'r prynwyr yn ddistaw gan wylio'r milwyr estron yn mynd drwy'r porthdy.
Bryd arall, yr oedd muriau'r gell yn nesu ato, yn cau amdano ac yn bygwth ei wasgu i faarwolaeth.
Wnaethon nhw ddim dweud mai eu rhestr Nhw oedd hi ond roedd Sam yn dweud ei bod hi'n eitha siwr mai dyna beth oedd hi.' Ar hyn tawelodd Dilwyn wrth weld Gary'n nesu tuag atynt ac yn eistedd ar y gadair wag yn ei ymyl.
Wrth iddo nesu at Sycharth mae Iolo Goch yn gweld llys hardd ar ben bryn glas.
Cafodd y sant ei gornelu â'i gefn at y môr, ac roedd y milwyr yn gweiddi am ei waed gan nesu'n fygythiol.
Efallai fod ganddo fo fwy o straeon tebyg." "Dos ato fo i ofyn 'ta." A dyma'r bychan yn nesu at y ffynnon.
tonnau'n chwyddo yn y pellter fel mynyddoedd mawr symudol, ac yn nesu a thorri'n gesyg gwynion anferth a chlecian a chwalu ar y Maen Du.