Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

newyddiadurwr

newyddiadurwr

Roedd yn fardd, llenor a newyddiadurwr, cenedlaetholwr i'r carn, a chyfaill diarbed i'w deulu agos a'i ffrindiau niferus.

Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

I newyddiadurwr o'r Gorllewin yn cyrraedd gwledydd y Baltig yn y cyfnod hwnnw, chwe mis ar ôl iddyn nhw ennill eu hannibyniaeth lawn, roedd un peth ar ôl y llall yn corddi teimladau a barn.

Cafodd wobr y Cyflwynydd Gorau am ei ddarllediad o angladd Diana, Tywysoges Cymru; Dewi hefyd oedd Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn yng ngwobrau BT ym 1998.

Yr awdur yw David Owens, newyddiadurwr o Dde Cymru syn brolio mai fe oedd y cyntaf yng Nghymru i gyfweld grwp bach fydd rhai ohonach chi'n gyfarwydd efo - y Manic Street Preachers, ac mae ei CV llwythog yn profi fod ganddor hygrededd ar wybodaeth i daclor testun newydd yma.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

Collodd ei swydd fel newyddiadurwr yn 1994 oherwydd ei fod yn mynnu gweithio ar stori oedd yn ceisio profi fod Ferret yn ddieuog o lofruddio Sian, gwraig Clem.

Mae'r ddwy bennod gyntaf yn egluro'r newidiadau economaidd, cymdeithasol a thechnegol - lawn bwysiced â dyfodiad teledu lloeren oedd yn gwneud gwasg Gymreig yn bosib, a bywoliaeth fel newyddiadurwr yn barchus os nad llewyrchus (efallai mai fel arall yn union mae hi heddiw).

Roedd un o ohebwyr ITN yn amlwg wedi ei ysgwyd pan ddywedodd mewn darn i gamera ei fod yn edifarhau ei fod yn newyddiadurwr yn hytrach na meddyg!

A phrofiad felly oedd clywed am farwolaeth yr enigmatig John Eilian, newyddiadurwr a llenor o faintioli sylweddol iawn.

Os nad oedd arweinwyr y bobl yn gwybod beth oedd yn digwydd, doedd fawr o obaith gan newyddiadurwr ar ymweliad brys.

Y ffordd orau yw i'r gohebydd a'r cyfarwyddwr neu'r newyddiadurwr gael mynediad fel twristiaid a chysylltu â'r criw lleol ar ôl cyrraedd y gwesty.

Bron ddwy ganrif yn ddiweddarach, roedd gohebydd ar ran El Pais yn Iwgoslafia'n dweud mai'r newyddiadurwr sala' yw newyddiadurwr marw - am na fedr adrodd ei stori.

`Never forget the wonder of it all', meddai'r gohebydd profiadol o Sais, Martin Bell wrtha i rhywdro, gan led-awgrymu fod amheuaeth reddfol y newyddiadurwr yn ei rwystro weithiau rhag gweld ambell ryfeddod.

Gydag amser, bydd pob newyddiadurwr yn meithrin rhwydwaith o gyfeillion mewn swyddi allweddol y gall ddibynnu arnynt i roi gwybod iddo am ddigwyddiadau.

Yn y pen draw, ni wna gor-lywio pwnc neu sefyllfa sy'n gwbl gyffredin ond agor bwlch argyhoeddiad rhwng y newyddiadurwr a'i gynulleidfa, a thanseilio ffydd y cyhoedd yn nilysrwydd ei raglen.

Y newyddiadurwr Steve Woods yn gorfod dianc o Dde Affrica wedi iddo feirniadu'r Llywodraeth ar ôl marwolaeth Steve Biko.

Gwnaed hynny'n eglur mewn cyfweliad teledu â newyddiadurwr o'r Eidal, a barodd am ddeunaw awr!

Ynghyd â'r tri newyddiadurwr arall a gyrhaeddodd y bore hwnnw, fe ges fy ngorfodi i newid cerbyd ddwywaith cyn croesi o ogledd y ddinas i'r de.

Doedd hi ddim yn syndod fod sawl newyddiadurwr yn weithredwyr gwleidyddol hefyd, ymhell cyn dyddiau Paul Foot a John Pilger.

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.

Ond, fel newyddiadurwr wrth reddf, y digwyddiadau mawr a'u hoblygiadau a aeth â bryd John Griffiths o'r funud y cyrhaeddodd Efrog Newydd .

`Mae'r peth yn rhyfeddol,' meddai un newyddiadurwr wrth Norman ar ôl y seremoni.