Newyddiadurwyr yn streicio mewn gwrthwy nebiad.
Dywedir bod un ardal yng ngogledd Ethiopia wedi cael rhai o'r cawodydd trymaf erioed yn dilyn ymweliad gan newyddiadurwyr o Norwy.
Ar faterion egwyddorol o bwys, dewisodd newyddiadurwyr fynd i garchar yn hytrach na datgelu ffynhonnell eu gwybodaeth.
Oherwydd natur y gwaith, arferir derbyn yn ddigwestiwn air gohebwyr y papurau lleol neu'r newyddiadurwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, ond y gwir yw nad oes raid i ohebydd feddu ar lawer o ddychymyg i greu ei stori%au ei hun pe bai newyddion yn brin !
Yn ôl un o newyddiadurwyr y Gorllewin, mae un fferm arbrofol yn ystyried bridio jutia conga - llygod mawr - yn fwyd i'r bobl.
Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.
Ond, ar hyd yr amser, mae hynny wedi bod yn fater o anfon newyddiadurwyr cyffredinol allan i wneud stori arbennig mewn lle penodol.
Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.
Fe honnodd rhai i newyddiadurwyr roi gormod o wybodaeth i'w darllenwyr, eu gwrandawyr a'u gwylwyr.
Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.
Yw'n newyddiadurwyr a'u doniau llawn hud.
Roedd yna hyd yn oed wahoddiad i newyddiadurwyr gael swper gyda theulu Iddewig.
Fe fyddai gweddill y trafod â mi fy hun ac â newyddiadurwyr eraill yn digwydd mewn dinas lle roedd mil o blant yn marw bob wythnos, lle'r oedd plant deg oed yn llusgo gynnau rhydlyd drwy'r llwch am eu bod yn rhy drwm i'w cario.
Mae ambell broblem yn gyfarwydd i newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau ymhobman ond eu bod yn cael eu gwneud yn amlycach trwy fod mewn gwlad dramor.
Ac yn anffodus bob wythnos mae papur newydd Undeb Cenedlaethol y Gohebwyr yn cario hanesion newyddiadurwyr drwy'r byd sy'n cael eu harteithio, eu carcharu a'u lladd.
Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr Saesneg yn llaes feunyddiol.
Yn nyddiau'r Gwlff unwaith eto, fel y gwelodd y gohebydd Cymraeg Guto Harri, roedd adroddiadau'n aml yn ymwneud â hynt a helynt y newyddiadurwyr ac yn codi o'u cynnwrf nhw ynglŷn â'u rhan yn y digwyddiadau.
Ar y cyfan, byddwn fel gwleidyddion, sylwebyddion a hyd yn oed newyddiadurwyr yn rhy barod i gyfyngu ein hunain i drefn y llwydd y byddwn yn perthyn iddo.
Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.
Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.
Fe fyddai hynny'n anymarferol mewn dinas lle roedd newyddiadurwyr o rwydweithiau'r byd yn dibynnu ar ddwy ffôn loeren a fawr ddim arall.
Iddo ef, roedd angen bod yn ymwybodol drwy'r amser o safbwyntiau ei ddarllenwyr Saesneg, gan gadw rhan ohono'i hun yn ddieithr i Gymru: `I think it is probably a mistake for any reporter to try to go completely native in any situation.' Os yw hynna'n wir, fe fydd newyddiadurwyr o Gymru'n gorfod cadw gwybodaeth a rhagdybiaethau eu gwylwyr, gwrandawyr neu ddarllenwyr yng nghefn eu meddwl.
Haerodd tystion eraill, gan gynnwys newyddiadurwyr, na symudodd yr un trên yn ystod y diwrnod hwnnw.
Anawsterau felly yn amlach na pheidio sy'n wynebu'r myrdd o newyddiadurwyr fydd yn heidio'n rheolaidd i wahanol uwch- gynadleddau.
Mae digwyddiadau'r flwyddyn a fu wedi tynnu'r gorau unwaith eto o'n newyddiadurwyr a'n gwneuthurwyr rhaglenni mewn radio a theledu - blwyddyn o orchestion cyson a sylweddol.
Rydan ni wedi byw efo cysyniad o oes pan oedd papurau Cymraeg yn ddylanwad torfol, oes y Faner ddi-grant, ac oes pan oedd newyddiadurwyr a golygyddion Cymraeg yn baglu ar draws ei gilydd ar Faes Caernarfon.
Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.
Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.
O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.
Talfan ar y blaen yn poeri fel cath, a'i fintai filwriaethus yn nyddu o'i gwmpas fel newyddiadurwyr o gwmpas eilun pop.
Thomas a'u buddsoddiad ym mywyd yr Unol Daleithiau'n wahanol iawn i eiddo newyddiadurwyr wrth grefft.
Yn sicr nid gwaith newyddiadurwyr oedd paratoi adroddiadau a fyddai'n annog pobl i gyfrannu'n helaeth tuag at y gwaith yn Somalia.
Ymhell cyn dyfodiad y KKK roedd denu a chadw nawdd yn creu problemau dyrys i olygyddion a newyddiadurwyr.
Unwaith, gwahoddodd bump o fenywod a oedd yn newyddiadurwyr ar gylchgronau yn America i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn, i weld pa mor normal oedd eu bywyd teuluol.
Ond hefyd mae'r sefydliad rhyngwladol sy'n rheoli marchnata celf - yr orielau â'u beirniaid cyflogedig a'r newyddiadurwyr cynffongar - yn gwbl wrthwynebus i raglenni diwylliannol sy'n herio eu safle breintiedig.
O'r cychwyn, roedd y daith yn frith o'r argoelion da a drwg hynny sy'n gwneud ein gwaith fel newyddiadurwyr mor gyffrous, ond yn ofidus ar yr un pryd.
(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.
Mae ein tîm o newyddiadurwyr yng Nghaerdydd a Bangor yn tynnu ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei ddarlledu ar deledu a radio gan Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru.
Welais i erioed y fath ddarpariaeth gyflawn ac effeithiol ar gyfer newyddiadurwyr tramor.
Oherwydd agwedd newyddiadurwyr Cymraeg agwedd wahanol i'r un yr oedden nhw wedi arfer â hi, efallai roedd ymddiriedaeth yn tyfu.