Roeddwn bron a cholli fy mholion sgio a gollwng y lifft yn gyfangwbl o 'ngafael.
A oedd hi yng ngafael rhyw ddiymadferthedd di-sbonc?
Ei law wen yn ngafael llaw arw'i thad, ei wyneb yn llyfn yn ymyl gerwinder y llall.
Daliais fy ngafael yn safle bachwr y tîm cyntaf weddill fy amser yn Lerpwl.
Go wantan oedd fy ngafael ar y Gymraeg, ac felly hyd yn oed pe bawn wedi awyddu dilyn y - gwasanaeth yn ddefosiynol, 'fedrwn i ddim, am fod iaith y bregeth a'r weddi a'r llithiau y tu hwnt i'm hamgyffred fel rheol.
Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.
Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.
A'i hanes yn y diwedd oedd ei fod, fel ei dad o'i flaen, yng ngafael mân betheuach y byd hwn yn cludo ymenyn i'r siop ac yn cwyno am bris y farchnad.