Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngallu

ngallu

Hyd yn oed ymysg Keyneswyr, y mae'r ffydd yng ngallu'r llywodraeth i fan-diwnio'r economi wedi gwanhau cryn dipyn yn ystod y saithdegau.

Ceid cyfnodau, fel yn Oes Victoria, pan oedd y ffydd yng ngallu'r gwyddonydd ac yng ngallu'r dechnoleg a ddibynnai ar ei waith i ddatrys problemau cymdeithas ac arloesi byd newydd paradwysaidd, yn uchel ei phen.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

Mae'n amhosib rhagweld beth sy'n mynd i fod yn ddefnyddiol, felly rhaid dangos ffydd yng ngallu ymchwilwyr i sylweddoli potensial syniadau newydd.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

Cynrychiolent y pynciau y rhoddwyd prawf ar fy ngallu i'w trafod yn yr arholiad - Hanes, Cymraeg a'r Ysgrythur.

Ni roddwyd unrhyw gyngor i mi erioed yngl^yn a beth i'w wneud pan oeddwn wedi cyrraedd pen draw fy ngallu.