'W^n i ddim a oedd yna aelodau gwir weithgar yng Nghymru yn gofyn y cwestiynau yn y modd hwn y pryd hynny, ond myfyriwr ymchwil yng Nghaergrawnt oeddwn i, ac yr oedd yno grŵp cryf o bleidwyr.
Y coleg hwn oedd un o gadarnleoedd Protestaniaeth yng Nghaergrawnt yn y cyfnod hwnnw, ac yr oedd yno ysgolheigion disglair.
Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.
Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.
Fe fydd y Dr William Griffith eisoes wedi manylu ar y cyrsiau addysg a gynigid yng Nghaergrawnt yr adeg honno, fel mai cwbl afraid ydyw i mi wneud hynny hefyd.
Fel yr awgrymwyd eisoes fe fyddai ei gwrs diwinyddol yng Nghaergrawnt wedi gwneud Morgan yn bur hyddysg yn hanes y cyfieithu ysgrythurol a amlinellwyd uchod, ac fe roddai'r ddysg hon iddo safon i allu cloriannu'n ystyrlon yr hyn oedd eisoes wedi ei gyflawni mewn perthynas â chael yr Ysgrythurau yn Gymraeg.
Ar un olwg teimlem mai'r angen cyntaf oedd cael mudiad iaith arbennig yng Nghymru fel y gallai'r Blaid ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol pur, ac yr oedd yn amlwg fod llawer o rai eraill yn meddwl yr un ffordd ar yr un pryd mewn amrywiol rannau o Gymru, ond heb fod mor feiddgar â ni yng Nghaergrawnt!