Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghalon

nghalon

Mae'r pentre felly'n cuddio yng nghalon Cwm Gwendraeth.

Gwyddwn, cyn y gallwn dderbyn y gwahoddiad, bod yn rhaid i mi ddelio â'r cymhellion yn fy nghalon.

Gwaedai fy nghalon dros John Jones druan, am mai o'm hachos i, ar ryw ystyr, y cafodd ei gosbi.

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

Wedi ennill y loteri yn 1999 penderfynodd Dyff brynu'r Deri gan ei osod ef a'i deulu yng nghalon y pentre.

Ond llechai rhyw ofn yng ngwaelod fy nghalon trwy'r cwbl.

Syrthiodd fy nghalon ynof.

Gyda hyn ar fy nghalon, ac wedi trafod gyda Gwenan, fy ngwraig, dyma gytuno i fynd.

WALI: (yn canu) Mae'n nghalon i'n eiddo i Heulwen erioed.

Mae cariad wedi taflu rhwyd O sidan am fy nwyfron Per swynol rwyd o wead serch Y ferch a bia 'nghalon Ac yn y rhwyd 'rwy'n byw a bod Ni fynnwn fod ohoni Ac yn y rhwyd y gwnaf barhau Nes gwnawn ein dau briodi.

Felly pan ddaeth y gwahoddiad i ymweld â brodyr a chwiorydd o Gristnogion yn Tsiecoslofacia, mae'n rhaid dweud i rhyw fflam o ysbryd anturus godi yn fy nghalon.

Bydd hi'n fraint i gael gwrthod talu, dros y ddau ymgyrch hawliau sifil agosaf at fy nghalon.

Rhowch y prawf i mi, ac fel Tomos hefyd, mawr fydd y llawenydd yn fy nghalon.

Suddodd fy nghalon.

Ond mi g'ledais fy nghalon, a chau botymau'r ffrog i'r gwddf.

Mae hurling yn gêm roes ias yng nghalon y Gwyddyl ers mil o flynyddoedd.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Rydw i'n difaru 'nghalon na faswn i wedi dysgu tipyn o Gymraeg iddyn nhw.

Wrth ystyried y pethau hyn, cododd baich mawr ar fy nghalon dros y bobl hyn - baich a wthiodd y chwilfrydedd arwynebol, a'm hofnau naturiol o'r neilltu.

Mae'r clwb yn agos iawn at fy nghalon i ac ar ôl canlyniad Casnewydd yr un cnta rwyn edrych amdano yw un Llanelli.

Ond yn bwysicach i mi, roedd yma gyfle heb ei ail i deithio'n ôl at ddinas a du'n agos iawn at fy nghalon a chael cyfarfod a recordio sgyrsiau gyda llawer o hen gyfeillion a chyfansoddwyr y bu+m yn astudio gyda nhw.

'Tybed oes gennych chi Sul allwch chi 'i roi i ni yn Maenan 'ma'r flwyddyn nesaf?' Llamodd fy nghalon a thynnais fy llyfr bach allan.

Gan fod i Ddinbych, a'r Capel Mawr yn arbennig, le mor gynnes yn fy nghalon y mae perygl fy mod yn syrthio i fagl rhamantu.

Ysgrifennais adroddiad maith gan lunio stori am hen wraig oedrannus a oedd eisiau bod ym Mhwllheli yn fuan i ddal rhyw drên neilltuol a dweud fel 'roedd fy nghalon yn gwaedu trosti - hyn ynghyd ag esgusodion eraill.

"Tydw i ddim am dorri fy nghalon chwaith," meddai Douglas Bader wrtho fo'i hun ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd.