Mae'n rhaid bod golwg wedi dychryn ar fy wyneb, gan yr âi rhai o'r bechgyn yn fwy hy arnaf, a llawer yn gweiddi, "Roi di gweir i mi?" Yn sydyn, cododd un bachgen ei law, a thaflodd fy nghap oddi ar fy mhen.
'Wnes i ddim ond cydio yn fy nghap a deud, "Dyna dy eitha' di'r uffar," ac allan a fi'.