Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghapel

nghapel

'Yng nghapel Bethesda yn y Wyddgrug ges i'r cyfle cynta', a mae'n rhaid i mi gyfadde bod fy nyled i i'r gweinidog, Eirian Davies, yn enfawr.

Gwasanaeth Undebol Cynhaliwyd gwasanaeth undebol yng nghapel Canaan ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol.

Yn ôl trefn yr ardal byddai'r pregethwr yng nghapel Berffro yn y bore, capel Beulah yn y prynhawn ac yn Berffro eto yn y nos.

` Yn fuan wedyn gwahoddwyd T. W. Jones, AS Meirion, a Goronwy Roberts AS i annerch cwrdd a drefnwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn yng Nghapel Celyn.

Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel yr Amlosgfa, Bae Colwyn, lle y daeth tyrfa deilwng i dalu'r gymwynas olaf dan arweiniad y Parchedigion Goronwy Prys Owen ac Isaac Jones, Abergele, a Mrs Alwena Jones yn gwasanaethu wrth yr organ.

Yng nghapel hynafol Carmel, Rhoshirwaen, siaradodd Mrs Katie Pritchard am yr hanes a'i hatgofion personol hi o'r amser y bu hi'n blentyn yno.

Pe edrychwn i'w ffynhonnell, y mae hwnnw yng nghapel Caersalem.

SUL Y PASG: Cafwyd cyfarfod cofiadwy hefyd Nos Sul y Pasg yng nghapel Carmel.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglŷn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

roedd pleidwyr heddwch yn wrecsam wedi trefnu i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos flaenorol yng nghapel y methodistiaid calfinaidd, stryd yr abad.

Bu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebenezer dan ofal y Parch O.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglyn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Wrth gofio am y dyn llyfr bach hwnnw yng Nghapel Maenan, 'rydw i'n 'i weld o'n debyg iawn i Ebedmelech ers talwm yn codi'r proffwyd Jeremiah o'r hen bydew hwnnw.

Ymaelododd yng Nghapel Coffa.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Fe fyn rhai pobl ddweud mai yng nghapel Libanus y dechreuodd y diwygiad yn Llanfairfechan.

Dyna oeddwn i'n 'i wneud yng Nghapel Maenan, Penmaenmawr, ryw nos Sul.

Roedd hi'n enedigol o Nantyffyllon, yn ferch i Howell a Mary Williams a gadwai siop groser yn y pentre ac yn selogion yng Nghapel Salem.

Ar unwaith creodd y Blaid Bwyllgor Amddiffyn yn Y Bala gyda Mrs Morovietz, a aned yng Nghapel Celyn yn ferch i Watcyn o Feirion, yn ysgrifennydd hynod o effeithiol a gweithgar, a Dafydd Roberts o Gaefadog yn Nghwm Tryweryn yn gadeirydd.

Daeth Ann Parry i'r Bywyd drwy wrando ar bregeth yng Nghapel Bontuchel, prif gyrchfan Cristnogion Methodistaidd yr ardal cyn i'r Achos gael ei sefydlu ym Mhrion.

Rhaid oedd mynd i gael cyfweliad ag aelodau'r Bwrdd yng Nghapel Sant Ioan, Caer.

Bu angerdd anghyffredin yn yr oedfa ddydd Sul fore'r Nadolig yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mryncir.

Roedd hi'n aelod ffyddlon yn yr hen gapel Tabor ac yn ddiweddar yng nghapel Carmel.

Yr oedd hi'n ddiacones yng nghapel Bethel, Gaiman, a chanddi ddosbarth o ferched ifanc yn yr Ysgol Sul.