Pan ddaethom gyntaf oll i Shamshuipo fe roddwyd y tri swyddog uchaf, y Cyrnol, y Major a Chapten fy nghatrawd i, mewn ystafell ar wahân, ac yn yr ystafell honno roedd soffa go fawr.
Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.