Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghesail

nghesail

Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.

Gwthiais y polion sgio'n ddiogel dan fy nghesail - gafaelais yn dynn a'm dwylo'n uchel ar y polyn a herciodd y lifft.

Rhaid dringo tipyn eto i gyrraedd yr uchaf o'r tri llyn, Glaslyn, sy'n swatio'n glos yng nghesail copa'r Wyddfa.

Croeso i ardal Llanrug yn Arfon, un or ardaloedd harddaf yng Nghymru yng nghesail yr Wyddfa - Rhwng môr a mynydd.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Yn Belem, gyda chopi o'r Badische Zeitung o dan fy nghesail, tynnu sylw'r cysylltydd a rhoi arwydd i hwnnw bod rhywun yn fy nilyn os oedd angen, drwy roi'r papur heibio.