A dweud wrthynt fy mod i wedi marw ac nad oes gen ti yr un ddima at fy nghladdu.
Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.
Mae arna'i ofn y cenllysg mawr sy'n bygwth o'r mynydd, dwi'n siŵr ei fod o am ddwad ar fy ngwarthaf mewn dau funud i 'ngholbio fi'n ddu las ac wedyn fy nghladdu fi yng nghanol yr eira, felly plîs Morys, gofyn iddi eto gawn ni fynd i'r tŷ.