Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.
Ond rwy'n cofio un o'i storiau yn dda iawn : air am air ymron gan iddi gael ei thraddodi yn fy nghlyw ddegau o weithiau.