Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghornel

nghornel

Pwyntiodd y meindar at bentwr o dâpiau yng nghornel yr ystafell, tâpiau yr oedd eisoes wedi eu cymryd oddi ar griwiau eraill.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Gallai weld cysgod du yng nghornel yr ystafell yn agos at droed y gwely.

Wrth symud y trên o'r orsaf, hawliai rhai pobl wedyn roedd yr awdurdodau wedi torri cytundeb â'r pwyllgor Taflwyd y dyn tân i'r ddaear tra crynai'r gyrrwr yng nghornel y cerbyd tanwydd o dan gawod o dalpau glo, gan waedu o'i ben.

Ceir syniad am olwg un o'r dinasoedd hyn oddi wrth y darlun sydd yng nghornel y map (t.

Codais beint o'r du, a phwy welwn yn eistedd ar stôl yng nghornel y bar ond gyrrwr y bws.

Gwelai ei fam yn gorwedd yn ei harch yng nghornel y parlwr a'r galarwyr yn dyfod yno i gysuro'r teulu.

Gwêl Begw'r ieir yn swatio yng nghornel yr ardd 'a'u pennau yn eu plu, yr un fath yn union ag y stwffiai hithau ei phen i'w bwa blewog yn y capel ar fore Sul oer' (Tc yn y Grug).

Chwaraeai rhyw hanner gwên yng nghornel ei wefusau fel y trodd yntau, wedi i'w lleisiau ddistewi yn y pellter, a chychwyn yn ôl ar hyd y llwybr i Lety Plu.

Rholiodd y memrwn o'r diwedd yn ofalus a'i gadw yn y gist bren yng nghornel bellaf yr ogof.

Yng nghornel ogleddol y sioe, sut bynnag, yr oedd yna garafan wedi'i pharcio.

Cyn inni ddechrau ffilmio fe gerddais o gwmpas ar fy mhen fy hun, ac, yng nghornel fy llygad, gwelais ddarn o bapur ar ochr un o'r tyllau mawr.

Awgrymwyd iddynt y dylid codi wyneb yr ardd (yng nghornel y maes parcio gyferbyn â'r groesfan tren) ac i'w ddefnyddio fel lle parcio cerbydau ar gyfer yr orsaf.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.

Cawsant hwy ill tri fwrdd yn daclus yng nghornel y stafell arall am fod honno ychydig yn wacach.