Eleni cynhaliwyd Seiat pryd y cafwyd myfyrdodau bendithiol iawn ar y geiriau "Myfi yw y ffordd"; "y bugail da%; "bara'r bywyd;" "yr Atgyfodiad a'r bywyd" a "goleuni'r byd" yng nghwmni'r Parchedigion Emrys Thomas, S.
Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.
Rydych chi'n llawer mwy tebygol o'i gweld yn crwydro caeau Pontcanna yng nghwmni Fudge ei chi, ac mae'n cyfaddef, peate'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n rhannu ei chartref gyda mwy na Fudge a'i gwr, sy'n ddyn sain.
Fel plentyn 'roeddwn wrth fy modd yng nghwmni nhad, ac i Gerrig Duon yr awn ni efo fo bob cyfle gawn i, mynd ar ffrâm y beic ar draws 'camp Mona'.
Mae pinc y mynydd, sydd yn bridio yn Llychlyn a gogledd Rwsia yn dod yma i dreulio'r Gaeaf ac fe'i gwelir yng nghwmni'r ji-binc yn aml.
I fod yn bersonol, pan euthum i Fangor i'r Coleg am y tro cyntaf, fy awydd mawr oedd astudio athroniaeth ond yn anffodus - erbyn hyn - deuthum ar ben y rhestr mewn Cymraeg yng nghwmni Idris Foster a Jarman a pherswadiwyd fi i 'gymryd' Cymraeg.
Buom yn blasu'r dafodiaith yng nghwmni Dr Gwen Aubrey a'r Parchg Caradoc Evans Fe ddaeth y Prifardd Meirion Evans, Y Prifardd Robert Powell a'r Athro Hywel Teifi Edwards ynghyd â Grwp Offerynnol Ysgol Ystalyfera i gyflwyno'r Celfyddydau inni.
Fe'i disgrifiai ei hun fel 'gwennol unig' ac eiddigeddai wrth y rheini a oedd eisoes yng nghwmni 'y Jehovah mawr'.
Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.
Menter Nedd Port Talbot -Noson yng nghwmni Geraint Lovegreen a'r Enw Da yn y Clwb Rygbi am 8 o'r gloch.
Am rai wythnosau bu Fred yn gyrru'r fen o gwmpas y dref, weithiau yng nghwmni Ali ac weithiau yng nghwmni Mary.
Ymadael yn hwyr yn y prynhawn yng nghwmni gwr cymharol ifanc o'r enw Josepho - peintiwr wrth ei alwedigaeth cyn y rhyfel, ond wedi gorfod ymuno â'r fyddin.
Cinio a sgwrs yng nghwmni Gwynn Pritchard, BBC Cymru oedd y digwyddiad cyntaf.
Yng nghwmni ei ewythr Owen yr aeth Watcyn Wyn i'r pwll glo i ennill ei damaid am y tro cyntaf, ac yntau'n grwt wyth mlwydd oed.
Awgryma aelodaeth Harris yng nghwmni meirchfilwyr Sir Frycheiniog ei agosrwydd at y sefydliad Seisnig.
Fel roeddwn i'n dweud, wn i ddim beth maen ei ddweud amdanaf i ond fyddwn i ddim eisiau treulio bore yng nghwmni yr un o'r bobl hyn heb sôn am naw wythnos.
Gwelai foreau coffi a nosweithiau diddan o fwyta a chyfeddach yng nghwmni cyfeillion.
Ychydig a feddyliwn i bryd hynny fod y Garreg Galch Garbonifferaidd sy'n brigo o gwmpas y Mwmbwls mor hynod o ddiddorol ag y deuthum i sylweddoli'n hwyrach, yng nghwmni fy athrawon daearegol o Brifysgol Abertawe.
Gyda'n pecynnau bwyd - diolch eto i Elin - yn ein dwylo, i lawr â ni at Eglwys Nanhyfer yng nghwmni ein tywysydd lleol Lyn Lewis Dafis, neb llai na golygydd y cylchgrawn hwn.
Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.
Yn y dull traddodiadol Gymreig roedd yn rhaid cael pwyllgor i ddod a phopeth i fwcwl gyda dros 300 o Gymry yn edrych ymlaen at fwynhau gwledd Gwyl Dewi yn un o westai Dubai yng nghwmni'r gwr gwadd, Phil Steele o adran chwaraeon BBC Cymru Wales.
Erbyn y pumed ty bwyta, a'r galon yn reit uchel, fasa hi ddim gwahaniaeth gen i tasa'n rhaid bwyta yng nghwmni llond ystafell o greaduriaid o blaned arall ar nos Calan!
Efallai y byddaf wedi priodi cyn hir Mae William Powel o Wrecsam yn galw ym Mryste'n aml ar fusnes ac yn hoffi fy nghwmni.
Ond un o'r cysuron mwyaf i mi oedd fel y dysgodd ganu Hen Wlad Fy Nhadau mor ddiffwdan (gyda holl urddas pysgodyn aur mud, marweddog) ar amrantiad (drwy osmosis) yn y ddywededig gynhadledd ar lan hen Afon Ddyfrdwy ddofn, yng nghwmni yr anwylaf gwnewch-i- mi-fedd-mewn-unig-fan Wyn.
Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.
Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.
Deudodd rhywun ryw dro fy mod i yn orhoff ong nghwmni fy hun - efalla' wir!
Cofio cerdded rownd pont y llyn ambell i noson yng nghwmni Ieu Glyndwr annwyl, a cherdded nôl ar hyd y ffordd cyn dod y ffordd osgoi, a sylweddoli yn sydyn yn nhrymder distawrwydd y nos fy mod i'n gallu clywed sŵn hen afon Prysor yn canu yn y Cwm.
Neu ai aros yn amyneddgar, yng nghwmni W.
Roeddwn ar fin anobeithio'n llwyr pan gododd y meindar yn flinedig a mwmian rhywbeth am yr amser prin a gâi yng nghwmni ei deulu.
Ond ar lin ffrae ni cherddai ll'goden goch drostynt, oherwydd roedd Begw'n dallt bod gwyn ei byd yng nghwmni Rondol, ac fe wyddai derfyn ei therfyna.
Doedd ei ymweliad â'r Unol Daleithiau ddim yn eithriad ac yntau'n teithio o gymuned Gymraeg yng nghwmni rhyw Gymro neu'i gilydd i weld arwyddion cynnydd neu olion Rhyfel Cartref.
Bydd y penwythnos yn cynnwys pryd canol dydd o sglodion a physgod gyda Mrs OTT (GILLIAN ELISA), cinio'r hwyr gyda'r cogydd, DUDLEY NEWBERY a thaith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm yng nghwmni RAY GRAVELL.
Yng nghwmni Rebecca John a Jason Mohammad, gall y gwylwyr gael clywed am ddigwyddiadau yng Nghymru ar byd, gyda'r bonws ychwanegol o dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar straeon newyddion syn digwydd yn hwyr yn y nos.
Cyfarfu ag ef pan oedd ar daith ar y Cyfandir yng nghwmni ei gyflogwr enwog, Iarll Arundel.
Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.
I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.
Yng nghwmni Rebecca John a Jason Mohammad, gall y gwylwyr gael clywed am ddigwyddiadau yng Nghymru a'r byd, gyda'r bonws ychwanegol o dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar straeon newyddion sy'n digwydd yn hwyr yn y nos.
Gwyddai y byddwn yng nghwmni Breiddyn a'r ddau actor proffesiynol, ac nid oedd am gynffonna o gwmpas er mwyn cael eu cyfarfod.
Trwy fod yng nghwmni pobl eraill sy'n defnyddio iaith fel erfyn i bwrpasu amlwg, penodol, mae plentyn yn dysgu sut i ymddwyn fel defnyddiwr iaith, i rannu'r PWRPAS er mwyn dod i wybod SUT.
Ar ôl y bwyd cafwyd hanner awr yng nghwmni Miss Iona Jones gyda'i detholiad hyfryd o ganeuon.
Does dim rhyfedd fod Worldvision mor awyddus i ni weld ei llwyddiant yng nghwmni Ansokia, hanner ffordd rhwng Korem ac Addis.
Ymhen amser wedyn y cefais wybod hyn ond nid ydym wedi cyfarfod ers hynny; digon prin y buasai'r un ohonom yn adnabod ein gilydd yn awr am mai byr iawn oedd yr amser y buom yng nghwmni'n gilydd ond eto, mae'r cyfan yn fyw yn y cof.
O wybod am ei chefndir bydd yn llawer hapusach yn eu cwmni hwy nac yng nghwmni'r Llyfrgellwyr.
Dysgais lawer iawn yng nghwmni Bob Davies.
`Petasech chi'n siarad fel yna efo fi yn rhywle heblaw yng nghwmni boneddigion fel hyn, Harri, mi faswn yn eich taro yn eich ceg,' ebe Ernest.
"Os rhywbeth, mae'n well gen i gerddoriaeth glasurol." Mae ei atgofion o wrando ar gyngherddau mawr y byd ar y radio yng nghwmni ei dad yn y Felinheli mor fyw ag erioed.
Mae'r gêmau'n addas ar gyfer plant Y Blynyddoedd Cynnar sy'n rhugl eu Cymraeg, ac ar gyfer dysgwyr yng nghwmni rhieni/oedolion/athrawon.
Clywais o'n adrodd ei hanes yn dod adref o New York y tro diwethaf hefo llong, y Mauritania, yng nghwmni dyn o Lanfairfechan o'r enw Gruffydd Hughes, tad John a Phoebe.
Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.
Mi 'roedd nhad a finnau, i'r munudau olaf yn ffrindiau, mi 'roedda ni wrth ein bodd yng nghwmni'n gilydd.
Bwyta, darllen, coginio, bod yng nghwmni ffrindia da.
Fel y mae'n digwydd cefais y fraint o ddarlledu unwaith yng nghwmni Sam Jones yng nghwrs ei flwyddyn gyntaf oll ef yn y BBC.
Roedd wedi edrych ymlaen ers wythnosau at y daith y byddai'n ei gwneud heddiw - taith a fyddai'n ei dwyn bob cam i'r ddinas fawr lle'r oedd yn mynd i dreulio wythnos gron gyfan yng nghwmni ei chyfnither, Llygoden Fach y Ddinas.
Yn nhaleithau'r De, yng nghwmni Cymro o'r enw Eleazar Jones, y gwelodd gynta' olion yr ymladd mawr:
Gweithiau Talfan bob amser yng nghwmni ei giang.
Gan fod pinc y mynydd yn hoffi bod yng nghwmni'r ji-binc mae'n hawdd eu cymysgu, ond gellir adnabod y ji-binc yn hawdd gan fod ganddo gorun lliw llechen.
Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.
Yn anffodus, ni chwerthais unwaith yng nghwmni Catrin a'I chyfeillion, er falle, nad dyna bwrpas y stori yn y lle cynta.
Profiad cynhyrfus oedd dringo i ben tūr Zigmund a chyffwrdd â'r gloch enfawr am lwc, yng nghwmni rhai o'r plant.
Y Sadwrn canlynol aeth Ali ar eu hôl i Birmingham yng nghwmni Shri Kristaan Moortty Pellai, neu Jim Pellai fel yr adwaenid ef fynychaf, i erfyn ar Mary i ddod yn ôl adref.
Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.