Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghwpan

nghwpan

mae'r gwyn yn dilyn honiad gan Bacher fod buddugoliaeth India yn erbyn Pacistan yng Nghwpan y Byd wedi ei threfnu ymlaen llaw.

Maswr Leeds a Phrydain, Iestyn Harries, fydd capten Cymru yng Nghwpan Rygbi 13 y Byd yn nes ymlaen eleni.

Yng Nghwpan Lloegr llynedd curodd Blackburn Bolton 3 - 0.

Jamie Baulch sydd wedi ennill brwydr y Cymry i gynrychioli Prydain yng Nghwpan Athletau Ewrop ymhen deng niwrnod.

Gobeithio bydd y ddau dîm yn cynnal y safon ddangoson nhw yng Nghwpan Heineken.

Bydd clwb y brif-ddinas yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth ysgubol dros Bristol Rovers yng Nghwpan Lloegr ddydd Sul.

Cafwyd un gêm yng Nghwpan Gilbert neithiwr ar Barc Waundew.

Mae chwaraewyr fel Hazem El Masri a Sami Chamoun wedi whare yng Nghwpan Winfield mâs yn Awstralia a bydd yn anodd torri drwy eu hamddiffyn nhw.

Enillodd pedwar o'r pum tîm o Gymru yng Nghwpan Heineken dros y penwythnos.

Caerdydd yw'r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yng Nghwpan Lloegr.

Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol.

Mae'n dod i'r pen yn y frwydr am y pumed safle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa.

Dywedodd Ymgynghorydd Chwaraeon S4C, Gareth Davies: "Rydym yn falch y gallwn gynnig uchafbwyntiau llawn o gêmau Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Ddigwyddith hyn ddim yn y Cynghrair nag yng Nghwpan Lloegr.

Castell Nedd neu Benybont fydd y pumed tîm o Gymru yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf - bydd hynny'n cael ei benderfynu y penwythnos yma, hefyd.

Mae pawb o bwys yng nghyd-destun pêl-droed Ewrop yng Ngenefa heddiw i weld pwy fydd yn chwarae pwy yng Nghwpan UEFA a Chynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Wedi absenoldeb o bum mlynedd mae Cymru yn ôl yn cystadlu unwaith eto yng Nghwpan Dunhill yn St Andrews.

Mae Colin Webster, un o sêr tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1958, wedi marw.

Roedd hon yn record o sgôr i Gymru yng Nghwpan y Byd, dechrau perffaith a'r 5,000 ddioddefodd yr elfennau yn cael gwerth eu harian.

Mae Penybont yn dathlu y byddan nhw - o drwch blewyn - yn chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Rhoddwyd sylw rheolaidd i bêl-droed Cymru gydol y tymor drwy gyfrwng gemau byw yng Nghwpan Premier Cymru ac adroddiadau ar Gynghrair Cymru.

Ar ôl yr ymarfer neithiwr ar gyfer y gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Wcrain nos fory mae gan y rheolwr Mark Hughes ambell broblem oherwydd anafiadau yn y garfan.

Golyga hyn y bydd yr Alltudion yn cael eu hatal rhag cystadlu yng Nghwpan Cymru.

Bydd timau Cymru yn chwarae yng Nghwpan Lloegr dros y ddeuddydd nesa.

Roedd y gêm yn fy atgoffa i o'r geme yn erbyn Samoa yng Nghwpan y Byd.

Roedd rhaid i Gymru ennill i gadw'i gobeithion o chwarae yng Nghwpan y Byd yn fyw.

Colli yn erbyn Samoa yng Nghwpan y Byd tro dwetha ddaeth a record ddi-guro tîm Graham Henry i ben.

Pedwerydd oedd tîm dan 19 Cymru yng Nghwpan Rygbi Ieuenctid y Byd yn Chile.

Byddan nhw'n mynd i Barc y Strade yfory ac yn gobeithio ail-adrodd y grasfa o 65 i 16 roeson nhw i Lanelli yng Nghwpan y Principality.

Ond penwythnos siomedig fu hi'n gyffredinol i glybiau Cymru yng Nghwpan Lloegr.

Mae Pontypridd yn seithfed a Llanelli yn bumed a'r ddau dîm yn awyddus i orffen yn y pum ucha er mwyn cael chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Roedd hi'n noson anhygoel yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr.