Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngogledd

ngogledd

Dywedir bod un ardal yng ngogledd Ethiopia wedi cael rhai o'r cawodydd trymaf erioed yn dilyn ymweliad gan newyddiadurwyr o Norwy.

Ar yr un pryd, mae nifer o'i luniau wedi'u hysbrydoli gan lefydd lle nad yw ôl dyn mor amlwg, y rhan fwyaf o'r rheiny eto yng Ngogledd a De Cymru, yn arfordir a mynydd-dir.

Fyny ym mynyddoedd uchel Cwrdistan yng ngogledd-orllewin Iran oedd o', a'r siwrnai i gyrraedd yn un anodd.

Mae gwesty yng ngogledd Cymru wedi gwyrdroi polisi dadleuol o wrthod caniatau i'w staff siarad Cymraeg.

Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Awyrennau bomio Hitler yn ymosod ar Guernika yng ngogledd Sbaen.

Ionawr 1997 Meddianwyd Swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd -- William Hague -- yng Ngogledd Lloegr i brotestio'n erbyn rheolaeth ar Gymru o Loegr.

Honnwyd bod cyflwr anfoddhaol addysg yng ngogledd Cymru yn deillio yn arbennig o'r camddefnydd o waddoliadau mewn nifer o ardaloedd.

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Mae Slimbridge yn ganolfan adar-dþr gyfleus i chwi yn yd de, ond fy hoff lecyn yw Gwarchodfa Martin Mere yng Ngogledd Lloegr.

Gellid dadlau mai Bill Parry yw un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar yng Ngogledd Cymru.

Soniai am streic setiwrs yng Ngogledd yr Unol Daleithiau, a phob setiwr yn y De'n cyfrannu tair doler yr wythnos at eu cadw allan.

Mae'n anodd heddiw deall pa mor chwyldroadol oedd y Stryd pan gychwynnodd: cyfres am bobl gyffredin o'r dosbarth gweithiol yng ngogledd Lloegr gyda cherddoriaeth agoriadol ddigalon.

Gyda channoedd o gefnogwyr ymosododd ar drefi yng ngogledd ddwyrain Cymru a'u llosgi.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ar fferm yng Ngogledd Ffrainc y bu Mrs Evans yn aros, a chofia fod yno ôl cyni a dioddef gan ei bod mor fuan wedi'r rhyfel.

Gellir cymharu'r ffyniant yn y diwydiant llongau yng Ngogledd Cymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r twf yn y diwydiannau glo, haearn a dur yn Ne Cymru.

Nid oedd yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd oedd ohoni yng Ngogledd Cymru yn gyfryw i feithrin na chynnal arlunydd o ddifri.

Yng ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae talcenni tai wedi eu haddurno'n drawiadol gan ddarlunio'r gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Mae'n braf cael gweld y bandiau Cymraeg yma yn canu yng Nghymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru lle mae lleoliadau mawr fel y pafiliwn rhyngwladol yn brin.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 'Y Sul Gwaedlyd' yng Ngogledd Iwerddon pan daniodd milwyr Prydain at orymdaith hawliau sifil yn y 'Bogside' a lladd 13.

Mynach ydoedd a fu'n byw yn Rhufain ac yng ngogledd Affrica.

"Llanelwy fydd lleoliad ein prif swyddfa yng Ngogledd Cymru, ond mae cynnig i bawb sydd yn gweithio ym Mangor drio am swydd yno," meddai.

Ar y noson dangoswyd dwy allan o'r dros 400 o raglenni a wnaed gan Gwyn Erfyl yn ystod ei gyfnod gyda HTV, un yn darlunio ei gyfaill mynwesol, yr arlunydd Pietro Annigoni wrth ei waith yn Fflorens, yr Eidal, a'r llall, Ewscadi, yn darlunio bywyd yng Ngwlad y Basg ar y ffin a Ffrainc yng ngogledd Sbaen.

Gobeithion am heddwch yng Ngogledd Iwerddon wedi i bleidiau o'r ddwy ochr gytuno ar gyfamod all arwain at ffyrfio cynulliad.

Cyhoeddwyd fod John de Lorean, perchennog y cwmni ceir a fu'n hapfasnachu swyddi yng Ngogledd Iwerddon gydag arian y Llywodraeth, wedi'i brofi'n ddieuog o drafnidio cyffuriau yn yr Unol Daleithiau.

Defnyddiwch y Cyfeirydd Busnes i ddarganfod mwy am gwmniau yng Ngogledd Cymru.

Ystad y Goron yng Ngogledd Cymru 1282-1849.

roedd y citroe%n hwnnw yn dwyn y llythrennau bi, felly roedd debra yn gwybod bod y car yn dod o o yng ngogledd sbaen.

oedd y ffordd y disgrifiodd arolygwr ffatri y plant yng ngogledd Lloegr yn siarad, ac fe geir arolygwyr Pwyllgor y Cyngor byth a hefyd yn cyfeirio at yr hyn nad oedd yn ddim ond brygawthan parablus i'w clustiau, pan oedd y plant mewn gwirionedd, mae'n siwr, yn adrodd barddoniaeth neu ddarllen rhyddiaith yn weddol ddeallus.

Bydd y casgliad hwnnw yn cael ei arddangos yn Aberystwyth yn y flwyddyn newydd ac mae cynlluniau i'w arddangos yng Ngogledd Iwerddon ac i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr.

Yn gyfochrog â'r ddau gyfeiriad hyn mewn hen gerddi, y mae'n werth crybwyll y ffaith fod pedwar neu bymp o bersonau o'r enw Arthur yn hysbys yn y chweched a'r seithfed ganrif, yn benaethiaid neu fân frenhinoedd, yng Ngogledd Prydain, yn Iwerddon ac yng Nghymru.

Yn ogystal, yng ngogledd y wlad, roedd y llywodraeth yn brwydro yn erbyn dwy garfan arall o wrthryfelwyr - byddin rhyddid talaith Eritrea a byddin rhyddid TigrÑ.

Bydd rhain yn sgiliau newydd i bobl yng ngogledd Iwerddon, a rhaid dweud fod nifer yn edrych tuag at Gymru am arweiniad yn y mater.

Boncath Pentref yng ngogledd ddwyrain yr hen Sir Benfro yw Boncath.

Yn ôl ynghanol y saithdege oedd hi, adeg pan oedd y probleme gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi cynyddu'n arw ac roedd tim pêl-droed Lloegr eisoes wedi gwrthod mynd allan i chwarae yn Belfast am resyme diogelwch.

Ddechrau Mai eleni daeth ymwelydd arbennig i'n plith yma yng Ngogledd Cymru.

Gellir bwcio Penwythnos Sêr S4C trwy ddau drefnydd teithiau o bwys yng Nghymru; Silver Star Holidays yng ngogledd Cymru a Diamond Holidays yn ne Cymru.

Teg dweud mai rhwystredigaeth oedd cymhelliad rhai o'r milwyr - chwilio am gyfle i gael blas ar ymladd go iawn cyfle na chafodd y marines Prydeinig yn ystod Rhyfel y Gwlff pan oeddent yng Ngogledd Iwerddon.

Symudwyd y 'Welsh Assistant' o Gaerdydd i Fangor i fod yn Gynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru.

I'r rhai hynny sy'n byw yng ngogledd Cymru, fe fyddai'r sioeau sy'n cael eu cynnal yn Mance- nion a Birmingham yn fwy cyfleus, wrth gwrs.

Ochr yn ochr â'r lluniau o bobl yn mwynhau a dathlu, mae eraill sy'n dystion prudd i'r dinist a'r lladd sy'n rhan o fywyd yng Ngogledd Iwerddon ers chwarter canrif.

Darlledwyd Before I Say Goodbye, hanes teimladwy Ruth Picardie yn ystod ei dyddiau olaf cyn iddi farw o ganser, ar BBC Radio 4, yn ogystal â Suffer Little Children, ar yr achos cam-drin plant yng Ngogledd Cymru, a Where Have All The Flowers Gone, am arddwyr ym Mhrydain.

Waeth sut afon yw hi, bydd eich afon neu nant leol yn debyg mewn sawl ffordd i Afon Conwy yng Ngogledd Cymru, yr afon a ddefnyddir yn yr astudiaeth achos yn yr adran ar Afonydd yn y Tirwedd.

Bu sôn mai'r Mandaniaid, sydd heddiw yn byw yng Ngogledd Dakota, oedd yr Indiaid gwyn.

Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.

Ysgol gynradd sirol yw Ysgol Gymuned Pentraeth, sydd wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.

Yng ngogledd Cymru, honnai fod athrawon yn perthyn i ddosbarth isaf cymdeithas; gwnâi unrhyw un a allai ysgrifennu, darllen a rhifo y tro.

Er cydnabod mai hwy oedd y prif ddylanwad addysgol yng ngogledd Cymru a'u bod wedi cyfoethogi'r bobl yn ddiwinyddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, roedd eu cyfraniad ym mhob maes arall yn brin iawn.

Yr effaith yn gorfodi rhwystro 250,000 o ddefaid yng Ngogledd Cymru.

Peiriannydd sifil o bentref ger Kirkuk yng ngogledd-ddwyrain Iraq oedd Azad Khder, a fu'n cerdded am bythefnos cyn cyrraedd Piranshahr.

Yn wir, nid oes dim sy'n llefaru'n fwy eglur ar berthynas Methodistiaeth a'r eglwysi Annibynnol yng ngogledd Cymru yn y cyfnod hwn na'r ffaith fod yr un teulu wedi magu dau blentyn a enillodd le iddynt eu hunain fel prif bregethwyr dau enwad, sef Henry a William Rees.

Os dowch ar eich hynt yn y gwanwyn fe welwch seren y gwanwyn yn garped piws golau yma, planhigyn eitha prin yngh ngogledd Cymru.

Yng ngogledd Ffrainc (La France du Nord) y down o hyd gyntaf i farddoniaeth a gyfansoddwyd fel efelychiad ar y canu Trwbadwraidd eithr yn yr iaith frodorol.

Anghofia' i fyth weld marines ifanc oedd newydd dreulio misoedd yn denu dirmyg y cymunedau cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu croesawu fel arwyr ar strydoedd Zacco a threfi eraill gogledd Irac.

Yr olygfa yw ystafell athrawon mewn ysgol uwchradd rywle yng ngogledd Cymru ac un o golofna'r achos, ganol y bore, o'i gadair freichia', wrth dynnu ar 'i getyn, yn rhoi ei linyn mesur ar raglenni teledu'r noson flaenorol: 'Wel'ist ti Leila ni neithiwr?' 'Leila?

'Mae enw dan i'r clwb, yn Ewrop ac yng Ngogledd America.

Mae'n ei ddisgrifio'i hun fel alltud-o-ddewis, gan gyfadef ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn ceisio cau'r hyn sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon allan o'i feddwl.

Tref farchnad yng Ngogledd Cymru ydy Rhuthun gyda phoblogaeth o tua phum mil.

Yng ngogledd-ddwyrain yr ynys y ceir y dystiolaeth amlycaf o'r Chwyldro Diwydiannol ym Môn.

Ond ni chafodd y Gwyddelod eu concro'n llwyr oherwydd pan aeth Dewi Sant (ac fe ddywed traddodiad ei fod ef yn ddisgynnydd i Geredig) i deithio yn Nyfed gwelodd fod elfen Wyddelig amlwg yno, yn union fel yr oedd yng Ngogledd Cymru pan ddaeth Cunedda yno ganrif ynghynt.

Erbyn hyn mae gwasanaethau'r plygain yn cael eu cynnal fin nos rhwng canol Rhagfyr a chanol Ionawr, y arbennig yng ngogledd yr hen Sir Drefaldwyn.

Diolch i'r drefn, er gwaethaf eu cefndiroedd cwbl ddrygionus weithiau, cafwyd modd i ddyrchafu'r broses wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

Daw'r sylwadau hyn yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Waterhouse ar gamdrin plant yng ngogledd Cymru.

Nid Adams oedd yr unig un i siarad Gwyddeleg yn ystod y sesiwn honno, defnyddiodd un o gynrychiolwyr yr SDLP yr iaith hefyd -- Bríd Rodgers -- arwydd allanol o un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ar gyfer dyfodol yr iaith Wyddeleg yng ngogledd Iwerddon.

Ceisiodd y gwasanaeth gydnabod yr effaith a gafodd y camdrin ar bobl yn ymwneud â gofal plant yng ngogledd Cymru.

Y darlithoedd yn mynd yn fwy crin o ddydd i ddydd, er i'r Major ddatgelu rhai ffeithiau diddorol am foesoldeb uchel swyddogion ein byddin, yn enwedig yng ngogledd Affrica.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.

Lyn Dafis yn bwrw golwg ar un agwedd ar y digwyddiadau diweddaraf yng ngogledd Iwerddon.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Er ei fod ar un olwg wedi ei ynysu yng Ngogledd Cymru, doedd diddordebau artistig Harry Hughes Williams ddim yn rhai plwyfol.

Awyrennau bomio Hitler yn ymosod ar Guernika yng ngogledd Sbaen.

Os clywaf ar y radio fod heddwch yn teyrnasu yng Ngogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol a mannau eraill yn y byd, fe fydda' i fel Tomos yn amau'r ffaith, er mai dyna fy ngobaith a'm dymuniad.

Bu 35 o bobl ifainc o Wynedd yng ngogledd Cymru yn cyfansoddi ar gyfer ensemble siambr gan Gerddorfa'r BBC mewn cywaith dan arweiniad y cyfansoddwr John Metcalf dros gyfnod o chwe mis.

Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.

Dyrchafai hynny fri y teulu ymhlith bonedd eraill llai ymwthiol yng ngogledd Cymru ar y naill llaw a'r cylchoedd ffasiynol yn Lloegr ar y llaw arall.