Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngolau

ngolau

Ffuretwr ydw i." "Ffu..ffu..." Taflodd ei phen yn ôl yn flin, a disgleiriai lliw cyfoethog ei gwallt yng ngolau pŵl braidd y cyntedd mawr.

"Fydd yna ddim ysbryd yng ngolau dydd siwr iawn .

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld ffilmiau arswyd lle mae dyn gorffwyll, yng ngolau'r lloer, yn gafael yn ei wddf, yn gwneud synau sy'n awgrymu ei fod ar fin tagu ac yn troi yn ...

Mudlosga ysgerbwd y garafan yng ngolau'r wawr.

Yn olaf, fe ellir chwarae y rhaglen orffenedig yn ôl ar sawl sgrîn deledu yng ngolau dydd, a chyda llawer llai o draul ar y tâp nag a fyddai ar ffilm arferol, a byddai cynhyrchu copi%au o'r rhaglen wreiddiol yn hawdd ac yn rhad.

Goleuddydd oedd yn llewyrchu yng ngolau'r haul, yn echblyg a greddfol ei natur.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

Roedd y tafarnwr wedi ei ddanfon i'r stabal ac roedd wedi gweld yng ngolau'r gannwyll nad oedd yr un dyn byw arall yno heblaw amdano ef.

Yng ngolau'r lleuad gwelodd Glyn adeiladau tebyg i ysguboriau a beudai a'r tŷ yn sefyll yng nghanol pinwydd talgryf.

Trydan i ffwrdd am weddill y noson, sgwrsio hefo Kate yng ngolau cannwyll.

Mae digonedd o cwarts i'w weld yma eto yn disgleirio yng ngolau'r haul.

Yng ngolau'r ffaglen gwelais y sewin crand.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.