Pwnc cwbl eilradd a dibwys oedd y Gymraeg yng ngolwg y mwyafrif mawr yn yr ysgol.
Mae angen i blentyn ddeall bod consyrn ei gymuned gyda'i genadwri a bod ei ymdrechion i fynegi'r genadwri honno, sy'n aml yn garbwl a bler, yn gymeradwy yng ngolwg y rhai sy'n ei derbyn.
Mae hynnyn brawf o pa mor bwysig yw hyfforddir Llewod yng ngolwg Graham Henry.
Wedi'r cyfnod o ddwy flynedd yn astudio Anatomeg bu+m yn ffodus iawn o ennill ysgoloriaeth fechan ac roedd hon yn werthfawr yn fy ngolwg gan fy mod hyd hynny wedi dibynnu'n gyfan gwbwl ar fy nhad am gefnogaeth ariannol.
Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.
Yng ngolwg yr arweinwyr Ymneilltuol, yr oeddynt, drwy ddifrio'r Cymry a'u hiaith, wedi gwadu hawl yr Eglwys ar eneidiau'r Cymry.
Golygai credu hyn mai braint yng ngolwg y gorthrymedig oedd ymladd a dioddef.
Wrth bwysleisio'r Gymraeg a Chymreictod rhoddir statws iddynt ym mywyd a gwaith beunyddiol yr ysgol a rhoddir bri arnynt yng ngolwg y gymdeithas.
Ond yn awr sylweddolais y byddai mynd i bregethu heb het yn rhywbeth hollol anweddus yng ngolwg y saint.
Gwisgai lifrai llwydwyrdd, ac yng ngolwg y plant edrychai yn bwysig iawn.
Gan fod y greadigaeth oll, yng ngolwg Irenaeus, yn hanfodol un, y mae dyn yn hanu o'r ddaear, a'r ddaear yn ddibynnol ar ddyn.
Rydw i â 'ngolwg yn barhaus ar betha 'mhlentyndod y dyddia hyn.
Mae cryn newid wedi digwydd yng ngolwg y wlad a'r tirwedd.
A gwaeth na hynny yng ngolwg y llywodraeth oedd fod swyddogion y dref yn cymryd rhan yn y trafodaethau ac yr oedd y Frenhines yn bendant iawn na ddylid annog lleygwyr i fusnesu mewn materion eglwysig.
Ac yng ngolwg y gyfraith y mae lladd bwriadol yn fwrdwr.
Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.
Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.
Ond yn wahanol i hynny yng ngolwg pawb roedd wedi hoelio'i gymeriad ar un o helion uchaf boneddigeiddrwydd y fro, heb orfod adio dim at ei daldra'i hun.
Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.
Yn y rhaglen hon y mae deg o bobl syn byw gydai gilydd dan yr un to yng ngolwg parhaus camerau teledu hyd yn oed pan fyddo nhw yn y ty bach a than y gawod.
Cymerid ffyddlondeb cenedl i'w duw cenedlaethol yn ganiataol, ac felly cwbl wrthun yng ngolwg yr Hen Destament oedd anffyddlondeb Israel i'w Duw.
Yng Ngolwg Duw, cawn ein hystyried yn seintiau drwy aberth rhywun arall.
Yng ngolwg llaweroedd, dychmygol yn unig oedd y rhagfuriau rhwng Lambeth a'r Fatican, a derbyniodd Esgob Bagot, Rhydychen, lu o lythyrau yn galw am ddiswyddo Newman.
Anomali ydynt bob un yng ngolwg y rhai sydd am safoni'r byd, a'i wneud yn fwy rhesymegol, yn fwy rheolus ac yn fwy ufudd.
Babi annwyl iawn oedd y cyfrwng newydd yng ngolwg Sam ac yr oedd yn ei fwydo â danteithion o bob math.
Mae yma nifer da o'r dyfyniadau mwyaf arferedig yn yr iaith Gymraeg, a rhaid imi gyfaddef imi gael fy synnu wrth weld enwau'r rhai a'u rhoes yno: dynion a berchid yn fawr ac a gyfrifid yn 'rhywun' yng ngolwg y cyhoedd.
'Rhoddi y vagabond pass i'r Jacs fynd ati i syllta', oedd hyn yng ngolwg Brutus, a synnai fod gweinidog mor uchel ei barch â Phylip Griffiths wedi'i iselhau ei hun drwy gymeradwyo'r arfer.J Dwg hyn ni at gymwysterau'r gweinidog ymneilltuol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nid oedd John Elias yn uchel iawn yng ngolwg Gwilym Hiraethog a mynnai mai David Charles, Caerfyrddin, oedd i'w osod gyda'r ddau arall.
Cerwch, y ddau ohonoch, gleuwch hi, ewch o 'ngolwg i'r cnafon.
Yn ogystal a bod yn brifathro roedd hefyd yn rhyw lun o ffarmwr, ond ffarmwr cwbl anghonfensiynol yng ngolwg gwerin gwlad bro'r Loge Las.
Hyd yn oed mwy bygythiol yng ngolwg yr awdurdodau oedd cynnull miloedd o bobl mewn cymanfaoedd.
Busnes rhyfedd oedd y busnes caru yma, yng ngolwg Joni.
Yng ngolwg yr ad-drefnu llywodraeth lleol arfaethedig gallai'r cyfarfodydd hyn ddatblygu i fod yn ffora i weithio gyda'r unedau newydd.