Hyd yn oed heddiw, gyda'r diwydiant glo Cymreig wedi ei ladd, dywed Hywel Teifi nad yw hyd yn oed yn awr yn rhy hwyr i wneud iawn am y diffyg hwn yng ngorffennol ein llenyddiaeth.
Rhoes y golygydd, a gymerai gymaint o ddiddordeb yng ngorffennol byw ei fudiad, gyfle i'w ddarllenwyr gael golwg ar gynnwys rhyfeddol dyddiaduron pwysig fel eiddo Evan Humphreys, Pen-lôn; John Jenkins, Glynmeherin; Gwilym Marles,i Llwyn, a John Thomas o Landysul.