Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngwasanaeth

ngwasanaeth

Yn Llundain dechreuodd weithio fel cyfrifydd i fasnachwr a thra'r oedd yng ngwasanaeth y gŵr hwnnw bu ar fordaith i India'r Gorllewin.

Ymunodd plant yr ysgol a'r dorf oedd wedi ymgasglu ar draeth Cemaes i gofio a chymryd rhan yng ngwasanaeth D-Day.

Gweinyddwyd y Sacrament o Swper yr Arglwydd ar ôl y bregeth yng ngwasanaeth yr hwyr.

Cyfeithiad yw'r gwaith hwn o 'epistolau ac efengylau' y Llyfr Gweddi Gyffredin, hynny yw o'r gwahanol ddarnau o'r Ysgrythurau a ddarllenir yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys Loegr.

Yr oedd y rheini bellach yng ngwasanaeth y gelyn.

Nid yw'r gosodiad yn gwbl eglur, ond y dehongliad a roddir arno'n gyffredin yw nad brenin oedd Arthur ond cadfridog o athrylith yng ngwasanaeth y brenhinoedd.

Siawns nad oedd Crwys yn ddigon o realydd i wybod ei fod fel bardd yn ffalsio'n ddengar yng ngwasanaeth delfryd genedlaethol arobryn.

Mae darparwyr gwybodaeth yng Ngwynedd yn cydnabod yr angen i wneu y defnydd gorau posib o gryfderau a chyfleoedd ei gilydd yng ngwasanaeth yr hen bobl a phobl sydd ag anabledd.

Cytunai ef nad brenin oedd Arthur ond cadfridog yng ngwasanaeth brenhinoedd y Brytaniaid.

Ar ôl cael ei gyfarch gan Archesgob Buenos Aires, cymerodd ran yng ngwasanaeth y Te Deum.

Roedd yr ewyrth clyfar hwn yn ŵr pwysig yn Llundain yng ngwasanaeth y brenin ei hun, ac roedd yn hoff ohoni hithau.

Aeth hwn i ffwrdd i'r De am dipyn, a hefyd cyn dychwelyd yn ôl i'w hen ardal bu am gyfnod yng ngwasanaeth Cyngor tref Aberystwyth yn cynorthwyo fel adeiladydd.

Yn hytrach na bod ar y clwt mi gynigiais fy ngwasanaeth yn haelfrydig i Bwyllgor Addysg Lerpwl ac mi fynegais barodrwydd i gyfrannu dysg a gwybodaeth mewn unrhyw ysgol y gwelai'r Awdurdod yn dda fy ngosod ynddi.

Erbyn canol Mawrth yr oedd Hridesh yn ôl yng ngwasanaeth y Genhadaeth a J.

Roberts am y trwbwl a ddaeth arno, am fyrhau ei fywyd, rhoi ei fywyd mewn perygl, etc.' Yr oedd cenhadwr Maulvi Bazaar hefyd i fod i gymryd rhan yng ngwasanaeth ordeinio Badshah yn y sasiwn yn Sylhet ym mis Mawrth.

Yr oedd hyn yn tueddu i fod yn nodweddiadol o'r hen drefn babyddol pan oedd uchel swyddogion yr Eglwys hefyd yn weinyddwyr yn y llysoedd ac yng ngwasanaeth y Goron.