Golygai ei derbyn or-ogoneddu'r gorffennol, golygai weled patrwm pendant gosodedig-oddi-fry yng ngweithredoedd dynion, golygai ddefnyddio'r gorffennol fel mynegbost i'r dyfodol.
Dywedodd Marx nad grymoedd y tu allan i ddynoliaeth oedd yn penderfynu ei thynged, ond yn hytrach yr oedd y benderfyniaeth honno wedi ei gwreiddio yng ngweithredoedd cymdeithasol pobl.