Hyd yn oed wrth droi'n ddiweddar at destunau'n nes adref yng Ngwent am ysbrydoliaeth, mae gweddillion chwareli mewn llefydd fel Clydach, heb fod ymhell o'r Fenni, wedi galluogi Bert Isaac i barhau â'r thema.
Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.
Er fy mod wedi gweld y gylfinbraff yn nythu yng Ngwent prin yw'r nifer, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru.
Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.