Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.
Wrth lwc, roedd pridd y ffordd wedi sychu yng ngwres yr haul ac roedd fel gyrru trwy gae newydd ei aredig.
Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.
Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.
Meddwodd Rhys yng ngwres ei chusanu nes teimlo'n benysgafn braf.
Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.
Cwynfan Serb yng ngwres ei glefyd, Pell y wawr a'r nos yn hir, Hiraeth bron am wynfyd mebyd Hwnt i gaerau Monastir.
Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.
A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.