Roedd wedi diflannu cyn i mi fedru cael fy ngwynt ataf a'i ollwng allan.
'Ddim yn gall,' mwmbliais dan fy ngwynt gan rwyfo'n wyllt.
"Mi rydw i'n colli fy ngwynt yn hawdd heno," meddai'r hen ŵr wrth Rex a arhosai'n nes at ei feistr na'r ddau arall.
Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.
Wrth weld a chlywed y moduron yn rhuo heibio iddynt mor agos, daeth hiraeth ar y plant am fod yn ôl ar yr ynys, yng ngwynt y môr, gweld yr adar, a Llwyd a'r anifeiliaid eraill.
Yng Ngholeg Bala-Bangor bu dau beth yn pwyso ar fy ngwynt.