Fe fu'n cynnal Dosbarth Allanol yn Nhalgarreg am flynyddoedd, ac fe fu'n arferiad ganddo draddodi 'darlith haf' ar ben yr hen odyn galch ar draeth Cwmtydu, bob mis Awst.
Ond 'rwy'n siwr y bydd yr aelodau o'r gymdeithas glos a dyfodd o'i gwmpas yn Nhalgarreg dros nifer o flynyddoedd, yn diolch am byth am y fraint o gael ei adnabod.