Y mae'n gweld Arthur, a chaniatau ei fod yn berson gwirioneddol, yn fwy o ffigur Celtig na Rhufeinig, yn debycach i Finn yn nhraddodiad Iwerddon nag i'r Comes Britanniarum.
Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol.
Trasiedi yn nhraddodiad y dramau Groegaidd yw hi.
Yna dau gerflun pren, yn nhraddodiad cerfiadau gwerin Lithuania, i gofio'r rhai a gafodd eu lladd yn y ganrif ddiwetha' wrth geisio cario llyfrau Lithuaneg i'r wlad, yn groes i gyfreithiau'r Tsar.
mae'r hysbyseb yn dangos andros o ras geir trwy strydoedd un o ddinasoedd yr Unol Daleithiau yn nhraddodiad gorau Bullit ac ati.
Fel 'undeb â Christ' y dehonglir y cyfrannu hwn yn nhraddodiad y Gorllewin tra sonnir am theosis neu 'ddwyfoli' yn nhraddodiad y Dwyrain.
Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.
Awdl ddiflas, garbwl yn nhraddodiad yr awdlau a'r pryddestau cofiannol oedd hon.